Ar-lein, Mae'n arbed amser
Peidiwch anghofio’ch Prawf Adnabod yn y gorsafoedd pleidleisio eleni!
- Categorïau : Press Release
- 12 Ebr 2024

Nodyn cwrtais i atgoffa’n preswylwyr y bydd rhaid i chi mewn rhai etholiadau yng Nghymru, fel Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Is-etholiadau Llywodraeth y DU a deisebau i ddangos llun adnabod yn yr Orsaf Bleidleisio. Fodd bynnag, ni fydd angen llun adnabod ar gyfer Etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol.
Sicrhewch, os nad oes gennych brawf adnabod derbyniol y bydd rhaid i chi wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr, yn rhad ac am ddim cyn y dyddiad cau ar Ddydd Mercher 24 Ebrill 2024.
Cliciwch yma ar gyfer rhestr lawn o brawf adnabod derbyniol.
Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr, yn rhad ac am ddim sef Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os:
- nad oes gennych lun adnabod sydd yn dderbyniol
- nad ydych yn siŵr os yw’ch llun adnabod yn edrych fel chi
- ydych yn bryderus ynghylch defnyddio unrhyw fodd o adnabod am unrhyw reswm fel dynodwr rhywedd.