Ar-lein, Mae'n arbed amser

Perchennog salon lliw haul yn cael ei ddirwyo am droseddau iechyd a diogelwch

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Mai 2019
Prosecuted 2

Mae salon gwelyau haul wedi derbyn dirwy ariannol gwerth £1495 am dorri nifer o reolau o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Un ohonynt yw caniatáu i blentyn o dan 18 oed i ddefnyddio gwely haul.

Derbyniodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gwyn gan breswylydd wedi i’w ferch ymweld â Sunshine Suites ar Stryd Fictoria, Dowlais a dioddef llosgiadau yn sgil defnyddio’r gwely haul. Methodd y busnes i wirio ei bod dros 18 oed, sicrhau fod gwybodaeth iechyd addas yn cael ei rhoi i’r cwsmer a bod offer addas yn cael eu defnyddio i amddiffyn y llygaid. Methodd y busnes, yn ogystal i ddynodi goruchwyliwr cymwys ac nid oedd y staff wedi derbyn hyfforddiant addas. O ganlyniad, gweithredodd Swyddogion Adran Iechyd yr Amgylchedd archwiliad dirybudd o’r safle lle yr amlygwyd nifer o broblemau’n syth.

Roedd Mr Phillip Henderson, perchennog y busnes yn bresennol yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 15 Mai 2019. Plediodd yn euog i’r pedwar cyhuddiad o dan Ddeddf Gwelyau Haul (Rheoliad) 2010 (Cymru) Rheoliadau 2011 sy’n gwahardd y rheini sydd yn iau na 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul. Derbyniodd Mr Henderson ddirwy o £950, costau o £395 i’r Cyngor, gordal dioddefwr o £50 a dyfarnwyd iawndal o £100 i’r achwynydd. Cyfanswm y gost ariannol oedd £1,495.

Susan Gow, Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd “Rydym yn croesawu’r erlyniad hwn ac ymroddiad yr Adran hon i ddiogelu iechyd y cyhoedd lle nad yw gweithredwyr yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Dylai fod yn atgof i weithredwyr gwelyau haul eraill y bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn eu herbyn pan fydd y gyfraith yn cael ei thorri. Dylai unigolion sy’n dymuno cynnig gwelyau haul i’r cyhoedd gysylltu â Thîm Iechyd y Cyhoedd am gyngor.” 


Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni