Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgysylltiad Addysgol

  • Categorïau : Education
  • 05 Ebr 2019
default.jpg

O fewn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) (Cymru) 2018, mae ffocws ar gynyddu cyfranogiad plant, rhieni a phobl ifanc, ac mae’n amlygu’r pwysigrwydd ‘bod y wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan’ (ADYTA 2018, t7).  Er mwyn ymateb i hyn, bu rhanbarth Canol y De yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu â rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc i geisio eu barn a’u hargymhellion.

Ymgysylltu â Rhieni a Gofalwyr

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd cael “llais” a chael eich clywed.  Mae hyn yn bwysig i bob dinesydd, ond mae’n arbennig o bwysig i’r rhai sy’n fwyaf agored i niwed.  Mae sefydliadau cymdeithasol a darparwyr gwasanaethau yn awyddus i gynnig gwasanaethau perthnasol, priodol a hygyrch.  Mae’r cyd-destun polisi cyfredol yn pwysleisio pwysigrwydd annog cyfranogiad wrth lunio a darparu gwasanaethau, a’r angen i ymgysylltu’n llawn â defnyddwyr.  I wneud hynny, mae’n rhaid ystyried pryderon, safbwyntiau a hanes personol y rhai sy’n byw mewn sefyllfaoedd anodd.  Yn anffodus, mae llawer o bobl yn teimlo eu bod ar y cyrion ac yn arunig, ac nad oes ganddynt rym yn y prosesau hyn.

Prif ddiben yr ymgynghoriad hwn yw hysbysu’r ALl o’r ffordd orau i ddarparu a lledaenu gwybodaeth, er mwyn i rieni a gofalwyr gael eu grymuso i allu cyfathrebu’n fwy effeithiol ynghylch lles eu plant a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn fwy yn y broses.  O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn yn uniongyrchol, bydd yr ALl yn fwy parod i ymateb yn briodol i unrhyw fater sy’n codi.  Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu manteisio ar ddewislen o adnoddau cyfathrebu a fydd yn hybu eu gwybodaeth er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau a dewisiadau gwybodus.

Mae rhieni, gofalwyr a theuluoedd ar draws rhanbarth Canol y De yn cyfranogi’n llawn mewn digwyddiadau.  Mae’n amlwg eu bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod eu pryderon mewn amgylchedd agored, diogel a chyfeillgar i ddefnyddwyr.  Bu’r manteision i rieni a gofalwyr yn amlwg o’r dechrau.  Un bonws ychwanegol fu’r cymorth y mae teuluoedd wedi’i gynnig i’w gilydd a’r dysgu dilynol sy’n digwydd.  Bu nifer fawr o bobl yn bresennol mewn digwyddiadau ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr, a bu’r cyfranogwyr yn cymryd rhan yn llawn yn y trafodaethau.  Bydd rhagor o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ystod Ebrill 2019.

Ymgynghoriadau Plant a Phobl Ifanc

Hwylusodd Holos ddau ymgynghoriad yng nghynhadledd Ysgolion CBS Merthyr Tudful yng Ngholeg Merthyr.

Ar sail y wybodaeth a gasglwyd o’r gynhadledd ysgolion y llynedd, ymgynghorwyd â’r bobl ifanc ar ddyluniadau taflen, a fyddai’n cynnwys cod QR i fwrdd stori digidol.  Roedd hyn yn cynnwys chwarae rôl mewn sgript a luniwyd i esbonio darpariaeth ADY, yn ogystal â’r broses apeliadau.  Dangoswyd enghreifftiau o animeiddiad digidol/fideo i’r grwpiau, y gellid eu defnyddio i gyfleu’r neges.  Cyfrannodd pob unigolyn ifanc o’r holl ysgolion at yr ymgynghoriad, a chafwyd ymateb da i’r syniadau a gyflwynwyd - yn enwedig darparu bwrdd stori/animeiddiad ar gyfer gwybodaeth am ADY.

Ar ôl dadansoddi’r adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, mae’n amlwg bod plant a phobl ifanc wedi deall ein hesboniad o Ddeddf ADYTA, a’u bod wedi ymateb yn gadarnhaol i’w chynigion ac wedi rhoi adborth adeiladol ar sut gall ALlau ddarparu gwybodaeth iddynt am ADY.

Bydd ymgynghoriadau â phobl ifanc o ysgolion ar draws y rhanbarth yn mynd rhagddynt drwy gydol mis Ebrill eleni, lle byddwn yn ceisio barn plant a phobl ifanc ag ADY.  Mae Holos yn defnyddio ystod o ddulliau i gasglu adborth gan bobl ifanc, gan gynnwys: cyfryngau digidol, ymarferion mewn grwpiau ffocws ac adrodd ansoddol ar eu profiadau uniongyrchol a diddordebau plant a phobl ifanc, wedi’u hwyluso gan dimau o weithwyr ieuenctid proffesiynol.

O ganlyniad i’r gwaith hwn yn uniongyrchol, bydd Holos Education yn cyflwyno safbwyntiau rhieni/gofalwr a phobl ifanc i’r ALl ac yn gwneud argymhellion.  Bydd y wybodaeth a gesglir gan bob un o’r 5 ALl yn arwain at ddatblygu adnoddau cyfathrebu newydd.  Y nod yw galluogi dealltwriaeth well o’r broses ADY ac arwain at ddeilliannau gwell i’r rhai sydd ag ADY a’u teuluoedd.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni