Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pencampwyr Eisteddfod yn Ail-fyw ei Buddugoliaeth gyda Chynghorwyr
- Categorïau : Press Release , Education , Schools
- 27 Meh 2022
Yn gynharach heddiw, cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, a Choleg Merthyr gyfle i rannu eu profiadau buddugol o Eisteddfod yr Urdd gyda Chynghorwyr.
Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych rhwng Mai’r 30ain hyd Fehefin 3ydd, a dangosodd y disgyblion o Ferthyr Tudful eu sgiliau creadigol yn canu, llefaru a dawnsio. Mae’r Eisteddfod yn agored i ysgolion ar draws Cymru ac roedd canlyniadau ysgolion Merthyr Tudful yn glod i’r staff a phlant sydd wedi gweithio mor galed i ddatblygu'r iaith Gymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Nododd y Pencampwr Cymraeg, y Cyng. Michelle Symonds, “Roedd yn wych gweld plant a phobl ifanc yn perfformio cerddoriaeth a llefaru y bore ma, mae hyrwyddo yr iaith Gymraeg o fewn ysgolion Merthyr Tudful yn parhau I greu argraff arnaf i.Credaf fod y strategaeth addysg Gymraeg ar ei anterth ac mae hyn yn enghraifft arall ohono. Da iawn bawb!
Ychwanegodd yr aelod Cabinet dros ddysgu'r Cyng. Michelle Jones, “WAW! Rydw I wedi mwynhau'r bore 'ma, roedd y perfformiadau yn anhygoel, ac roeddech yn gallu gweld yr angerdd at y Gymraeg ym mherfformiadau’r plant. Byddaf yn parhau i wthio’r Strategaeth Addysg Gymraeg, gan sicrhau ein bod yn gweld mwy o’r llwyddiant hwn yn ein Bwrdeistref Sirol ac ymhellach!”
Mynychodd y Maer, y Cyng. Declan Sammon y digwyddiad hefyd a dweud “Mae hi’n fraint ac anrhydedd mynychu'r math yma o ddigwyddiad a chofleidio'r Diwylliant Cymraeg, yr wyf wedi ei garu ers i mi symud i Gymru. Rwy’n gobeithio y bydd myfyrwyr ifanc eraill yn dilyn eu traed ac yn mynd ymlaen i efelychu’r un llwyddiant yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n wych gweld yr Iaith Gymraeg yn cael ei dathlu ar draws y Fwrdeistref Sirol a dymunaf y gorau i bawb a gymerodd ran heddiw ar gyfer y dyfodol. Gwych, da iawn bawb! Gwych, da iawn bawb!