Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trydanu Cerbydau Trydanol ledled Merthyr Tudful: Cwestiynau Cyffredin

  • Categorïau : Press Release
  • 17 Meh 2026
Merthyr Tydfil CBC Logo

A allaf barcio cerbydau nad ydynt yn Gerbydau Trydanol mewn man parcio trydanu?
Na, clustnodir y mannau hyn at ddefnydd cerbydau  trydanol i drydanu’r batri, a bydd unrhyw gerbydau nad ydynt yn gerbyd trydanol yn cael Hysbysiad Tâl Cosb (PCN yw’r talfyriad Saesneg). £70 yw uchafswm y gosb.

A allaf barcio Cerbyd Trydanol mewn gofod trydanu a pheidio â defnyddio'r cyfleuster trydanu?
Na chewch, mae'r mannau hyn wedi eu clustnodi at ddefnydd cerbydau trydanol er mwyn iddynt drydanu’r batri.  Bydd Hysbysiadau Tâl Cosb yn cael eu cyhoeddi ar gyfer y cerbydau trydanol hynny sydd wedi'u parcio mewn gofod Cerbydau Trydanol ac nad ydynt yn trydanu eu batri.

A fydd yn rhaid i mi dalu am barcio wrth drydanu fy ngherbyd trydanol?
Os yw'r maes parcio’n faes parcio talu ac arddangos, yna bydd angen i chi dalu i barcio eich cerbyd wrth i chi drydanu eich cerbyd, fel arall byddwch yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb. Cyfeiriwch at y tariff ar gyfer y maes parcio talu ac arddangos perthnasol. Os ydych chi'n parcio i drydanu ar eich cerbyd y tu allan i'r cyfnod tariff, yna byddai’n rhad ac am ddim i barcio.

Sut ydw i'n gwrthwynebu Hysbysiad Tâl Cosb?
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ynghylch sut i wrthwynebu Hysbysiad Tâl Cosb ar gefn y ddirwy.  Rhaid cyflwyno pob gwrthwynebiad i Grŵp Parcio De Cymru (SWPG yw’r talfyriad Saesneg) drwy ymweld â swpg.co.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni