Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dod a thaliad pryd ysgol gwyliau i ben
- Categorïau : Press Release
- 26 Gor 2023
Annwyl Riant/ Ofalwr,
Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gofyn i ni eich hysbysu na fydd estyniad pellach i ddarpariaeth Cinio am Ddim.
Mae hyn yn golygu yn anffodus na fydd taliadau pellach na thalebau archfarchnad yn cael eu darparu i deuluoedd sy’n gymwys i dderbyn cinio am ddim, yn ystod cyfnod gwyliau’r haf a gwyliau eraill sydd i ddod.
Cyflwynwyd y cynllun hwn fel ymateb i’r pandemig COVID fel dull amser penodol i gefnogi teuluoedd. Estynnwyd hyn oherwydd yr argyfwng Costau Byw, ond mae LlC wedi cadarnhau nad ydynt yn gallu parhau gyda’r trefniadau hyn o nawr.
Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda chostau, hoffem eich hysbysu am yr adnoddau ar-lein canlynol sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ac sy’n cynnig gwybodaeth am gefnogaeth ariannol posib, yn cynnwys y Gronfa Gefnogaeth Ddewisol ar gyfer pobl sy’n wynebu anawsterau ariannol.
Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU
Mae’r wefan LlC hon yn cael ei diweddaru’n gyson ac yn cynnig gwybodaeth am gefnogaeth ariannol posib, yn cynnwys y Gronfa Gefnogaeth Ddewisol ar gyfer pobl sy’n wynebu anhawsterau ariannol sylweddol.
Yma i helpu gyda chostau byw | LLYW.CYMRU
Mae’r ymgyrch hon yn annog pobl i gysylltu gydag Advicelink Cymru - Citizens Advice am gyngor diduedd am wneud y mwyaf o’u hincwm yn cynnwys derbyn cefnogaeth ariannol.
Am fwy o help a chyngor am gefnogaeth gyda chostau byw ym Merthyr Tudful ewch at Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Diolch yn Fawr
Sue Walker
Cyfarwyddwr Addysg