Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dod a thaliad pryd ysgol gwyliau i ben

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Gor 2023
info

Annwyl Riant/ Ofalwr,

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gofyn i ni eich hysbysu na fydd estyniad pellach i ddarpariaeth Cinio am Ddim.

Mae hyn yn golygu yn anffodus na fydd taliadau pellach na thalebau archfarchnad yn cael eu darparu i deuluoedd sy’n gymwys i dderbyn cinio am ddim, yn ystod cyfnod gwyliau’r haf a gwyliau eraill sydd i ddod.

Cyflwynwyd y cynllun hwn fel ymateb i’r pandemig COVID fel dull amser penodol i gefnogi teuluoedd. Estynnwyd hyn oherwydd yr argyfwng Costau Byw, ond mae LlC wedi cadarnhau nad ydynt yn gallu parhau gyda’r trefniadau hyn o nawr.

Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda chostau, hoffem eich hysbysu am yr adnoddau ar-lein canlynol sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ac sy’n cynnig gwybodaeth am gefnogaeth ariannol posib, yn cynnwys y Gronfa Gefnogaeth Ddewisol ar gyfer pobl sy’n wynebu anawsterau ariannol.

Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

Mae’r wefan LlC hon yn cael ei diweddaru’n gyson ac yn cynnig gwybodaeth am gefnogaeth ariannol posib, yn cynnwys y Gronfa Gefnogaeth Ddewisol ar gyfer pobl sy’n wynebu anhawsterau ariannol sylweddol.

Yma i helpu gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

Mae’r ymgyrch hon yn annog pobl i gysylltu gydag Advicelink Cymru - Citizens Advice am gyngor diduedd am wneud y mwyaf o’u hincwm yn cynnwys derbyn cefnogaeth ariannol.

Am fwy o help a chyngor am gefnogaeth gyda chostau byw ym Merthyr Tudful ewch at Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Diolch yn Fawr

Sue Walker
Cyfarwyddwr Addysg

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni