Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sicrhau noson allan Nadolig diogel ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Rhag 2022
Christmas Safety

Mae Heddlu De Cymru wedi ymuno gyda’r Cyngor a busnesau lletygarwch lleol i sicrhau diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr sy’n cael noson allan yn y dref y Nadolig hwn.

Mae tafarnwyr ac aelodau staff tafarndai, clybiau a thai bwyta wedi mynychu hyfforddiant yn Redhouse Cymru i’w dysgu sut i edrych allan am gwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus, yn enwedig menywod.

Roedd y sesiwn a ddarparwyd gan yr heddlu yn edrych ar drais yn erbyn merched, a chynllun Gofyn am Angela, sy’n helpu pobl sy’n teimlo yn anghyfforddus yng nghwmni rhywun i dderbyn cymorth cyfrinachol gan staff.

Addysgodd y swyddogion y staff am ddyletswydd gofal, rôl staff lletygarwch ac ymyraethau priodol i newid canlyniad sefyllfaoedd a allai fod yn anodd.

Dwedodd yr Arolygydd Richard Martin o Heddlu De Cymru: “ Cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yw amser prysuraf sefydliadau economi gyda’r nos.

“Mae adnabod pob math o drais yn erbyn merched mor gynnar â phosib yn allweddol er mwyn cadw pobl yn saff. Mae darparu gwybodaeth i staff sy’n gweithio yn yr economi yn gwella ymwybyddiaeth ac yn grymuso ein cymunedau i weithredu a pheidio sefyll a gwylio yn dawel,” ychwanegodd.

“Rydym wedi bod yn addysgu staff am ymgyrchoedd fel Gofyn am Angela ac ‘ymyrraeth gwyliedydd’ er mwyn eu grymuso i ymyrryd yn ddiogel a herio agweddau peryglus, iaith anweddus neu ymddygiad treisgar, gan sicrhau bod Merthyr Tudful yn le mwy diogel i bawb.”

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch y Cyhoedd, y Cyng. Michelle Symonds: “ Rydym yn ffodus ym Merthyr Tudful i gael canol tref sy’n fwyfwy amrywiol gyda bywyd gyda’r nos a bwytai prysur.

“Mae gwastad wedi bod yn lle cymharol ddiogel i gymdeithasu, gyda buddsoddiad mewn Teledu Cylch Cyfyng a gwaith partneriaid sy’n golygu bod gweithwyr yr economi gyda’r nos fel staff tafarndai a gyrwyr tacsi, yn ymdrechu i weld bod canol y dref yn le mwy diogel.’’

  • Mae’r Cyngor a’r Heddlu yn ddiolchgar i’r canlynol am fynychu’r sesiwn hyfforddiant, Barcode, Castle Bingo, Guest Bowls Club, Koolers, Merthyr Labour Club, The New Crown Inn, Tiger Inn, Vulcan Inn a’r The Welsh Bar.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni