Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwaith hanfodol yn mynd rhagddo yng Nghastell a Pharc Cyfarthfa

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Gor 2026
cyfarthfaCastle.jpg

Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful eich diweddaru ynghylch y rhaglen sylweddol o fuddsoddiad sydd ar y gweill ar hyn o bryd yng Nghastell a Pharc Cyfarthfa sydd yn cynorthwyo i ddiogelu un o asedau treftadaeth pwysicaf Cymru gan wella'r profiad i drigolion ac ymwelwyr.

Mae amrywiaeth o waith gwella hanfodol yn mynd rhagddo ym Mharc a Chastell Cyfarthfa, gyda chefnogaeth drwy gyfuniad o gyllid a sicrhawyd gan Cadw, buddsoddiad y Cyngor, cyllid Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a Sefydliad Cyfarthfa.

Mae'r gwaith allweddol sy'n cael ei wneud yn y Castell ar hyn o bryd yn cynnwys gwaith atgyweirio to hanfodol a gwelliannau draenio. Disgwylir i'r gwaith draenio gael ei gwblhau yn ystod y misoedd nesaf, tra y bydd y gwaith to yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesaf. Mae'r prosiectau hyn yn hanfodol er mwyn ddiogelu gwead hanesyddol yr adeilad, mynd i'r afael â gofynion cynnal a chadw hirdymor a sicrhau bod Castell Cyfarthfa yn parhau i fod yn wydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Trwy fynd i'r afael â'r materion hyn nawr, rydym yn cymryd camau rhagweithiol i warchod y tirnod eiconig hwn a lleihau'r risg o ddirywiad mwy sylweddol yn y dyfodol.

Yn cydfynd â'r gwaith, darparodd y contractwyr gyfleoedd a buddion cymunedol eraill gan gynnwys gosod prentisiaid ar y safle, ymweliadau ysgol a gweithgareddau ymgysylltu, presenoldeb mewn ffair yrfaoedd adeiladu lleol, diwrnod cyfweliad ffug ac ymweliadau eraill â safleoedd ysgolion, coleg a chymunedau.

Tra bod y gwaith hyn yn mynd rhagddo, mae Parc Cyfarthfa ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, gyda'r amgueddfa'n arddangos Dathliad o Beintio Cyfoes Cymru 2026 hyd at 30 Awst.

Mae cyllid pellach o gyllid Y Pethau Pwysig, Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwelliannau nid yn unig yn y Castell ond hefyd yn ystâd ehangach Parc Cyfarthfa. Yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa mae hyn yn cynnwys gwelliannau mewnol i doiledau, gwella'r dderbynfa, y siop a'r caffi, uwchraddio'r Wi-Fi a'r teledu cylch cyfyng ac arddangosfa sinema glyweledol newydd. Yn y Parc, mae'r cyllid wedi darparu gwell arwyddion a darganfod ffyrdd, ledled tiroedd Parc Cyfarthfa, gan helpu ymwelwyr i lywio'r safle’n haws. Mae hefyd wedi cefnogi ystod o seilwaith newydd ac wedi'i uwchraddio gan gynnwys meinciau picnic a biniau o ansawdd uchel sy'n gwneud y safle yn lanach, yn fwy cyfforddus ac yn fwy hygyrch i bawb. Mae'r gwelliannau hyn yn cryfhau profiad ymwelwyr, yn gwella hygyrchedd ac yn sicrhau bod y Parc yn parhau i fod yn gyrchfan o ansawdd uchel i gymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Sefydliad Cyfarthfa yn parhau i archwilio ystod o gyfleoedd ariannu, gan gynnwys cyflwyniad diweddar i Gronfa Datblygu Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Er na dderbyniodd y prosiect gyllid drwy'r rownd ariannu hon, rydym yn parhau i fod yn hyderus yn ei botensial yn y dyfodol. Mae'r gwaith helaeth a wnaed drwy gydol y broses ymgeisio wedi cynorthwyo i gryfhau a mireinio'r weledigaeth hirdymor ar gyfer Castell a Pharc Cyfarthfa, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr a momentwm ar gyfer cyfleoedd cyllido a buddsoddiad yn y dyfodol. Yn bwysig, mae'r momentwm y tu ôl i'r rhaglen adfywio a gwella ehangach yn parhau i fod yn gryf. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i weithio gyda Sefydliad Cyfarthfa, partneriaid, rhanddeiliaid a chyrff cyllido i archwilio cyfleoedd yn y dyfodol a all gynorthwyo i gyflawni'r uchelgeisiau hirdymor ar gyfer Castell a Pharc Cyfarthfa fel yr amlinellir yng Nghynllun Cyfarthfa

Mae'r Cyngor a'r Sefydliad yn parhau i fod yn uchelgeisiol a byddant yn parhau i fynd ar drywydd cyfleoedd i sicrhau buddsoddiad ychwanegol ac adeiladu ar y momentwm cadarnhaol sydd eisoes yn cael ei gyflawni. Edrychwn ymlaen at ddarparu diweddariadau pellach wrth i'r rhaglen waith bresennol fynd rhagddi ac wrth i gyfleoedd buddsoddi a gwella yn y dyfodol gael eu datblygu.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni