Ar-lein, Mae'n arbed amser
Llwyddiant Arolwg Estyn i Ysgol Gwaunfarren
- Categorïau : Press Release
- 15 Mai 2026
Rydym yn falch iawn o ddathlu adroddiad arolygiad Estyn Ysgol Gynradd Gwaunfarren – gan barhau â’r patrwm cryf o lwyddiant ar draws ysgolion Merthyr Tudful!
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr ysgol fel “amgylchedd croesawgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu parchu.” Cydnabuwyd cryfder y perthnasoedd rhwng staff a disgyblion, gyda’r arolygwyr yn nodi’r ethos gofalgar a’r ffordd y mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn cefnogi eu lles yn llwyddiannus.
Canmolwyd y disgyblion am eu hagweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, eu hymddygiad parchus a’r awyrgylch tawel a phwrpasol yn y dosbarthiadau. Fel y noda’r adroddiad, mae’r disgyblion yn “garedig tuag at ei gilydd ac yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn.” Mae’r ymdeimlad hwn o gymuned yn amlwg yn sail i lwyddiant yr ysgol.
Yn bwysig iawn, cadarnhaodd yr arolygiad fod “bron pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r rhai o aelwydydd incwm isel, yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn.” Cydnabuwyd Gwaunfarren hefyd fel amgylchedd cyfoethog o ran iaith, lle mae staff yn modelu Saesneg ac, yn gynyddol, y Gymraeg yn gadarnhaol – gan atgyfnerthu cynhwysiant, dyheadau uchel a disgwyliadau uchel i bob dysgwr.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Lewis:
“Rydym yn falch iawn o ganfyddiadau’r adroddiad, ac rydym yn eu gweld fel tystiolaeth gref o’r ymdrech ar y cyd, y gwaith tîm a’r uchelgais rennir ar draws ein cymuned ysgol gyfan. Wrth i ni ddathlu’r cyflawniad hwn, rydym yn parhau’n ymrwymedig i adeiladu ar y cryfderau hyn a pharhau i ddarparu’r addysg a’r profiadau gorau posibl i bob un o’n disgyblion.”
Aelod y Cabinet dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg y Cynghorydd Gareth Lewis:
“Mae adroddiad Estyn cadarnhaol Ysgol Gynradd Gwaunfarren yn dyst i waith caled ac ymrwymiad yr holl staff, uwch arweinwyr a llywodraethwyr, yn ogystal â brwdfrydedd a phenderfyniad ei disgyblion. Mae'n adlewyrchu cymuned ysgol sy'n cydweithio i greu amgylchedd meithringar ac uchelgeisiol lle mae pob plentyn yn cael ei gefnogi i ffynnu. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos cryfder tîm sy'n ymroddedig i roi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn.”
Mae’r adroddiad hwn yn glod gwirioneddol i ddisgyblion, staff, arweinwyr, llywodraethwyr a chymuned ehangach Ysgol Gynradd Gwaunfarren, ac yn enghraifft arall o’r addysg o ansawdd uchel sy’n cael ei darparu ar draws Merthyr Tudful. Llongyfarchiadau i bawb dan sylw ar lwyddiant haeddiannol iawn!