Ar-lein, Mae'n arbed amser

Barnwyd Ysgol Haf Ewch Amdani’n llwyddiant ysgubol!

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Medi 2024
Ewch Amdani Summer School

Trefnwyd Ysgol Haf ‘Ewch Amdani! Go for it!’ gan dîm Llwybr i Waith Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, i blant sy’n derbyn gofal ac i’r sawl sydd wedi gadael gofal. Roedd hi’n rhaglen wythnos o hyd yn ystod y gwyliau, lle cafwyd cyfle i fwynhau digwyddiadau llawn hwyl a oedd yn ymwneud ag addysg, amcanion y dyfodol, breuddwydion a’r hyn sydd ar gael i bawb yn ne Cymru.

Y bwriad oedd ehangu meddwl y person ifanc / y bobl ifainc parthed pa fath o lwybrau gyrfaol sydd ar gael, a chynnal digwyddiad llawn hwyl, wrth ddysgu sgiliau newydd a dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer eu dyfodol.

Mae’r tîm Llwybr i Waith wedi ei leoli o fewn Tîm Cyflogadwyedd yr Awdurdod Lleol ac fe’i rheolir ar y cyd gan Gydlynydd y Prosiect Cyflogadwyedd, Jared Green a Rheolwr Tîm Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal yr Awdurdod Lleol, Jess Jones. Y dull traws-Gyfarwyddiaeth hwn sy’n gwneud y prosiect yn un unigryw ac mae’n amlwg wedi cael effaith ar ei lwyddiant hyd yn hyn. 

Lansiwyd y prosiect ar y 12fed o Ionawr 2024 pan aeth Llwybr i Waith â phedwar plentyn ar ddeg rhwng 11-16 o Ysgol Uwchradd Pen y Dre i ymweld â BBC Cymru yng Nghaerdydd. Rhoddodd hwn gyfle i’r bobl ifainc fynd ar daith dywys ac i gynyddu eu hymwybyddiaeth parthed y cyfleodd cyffrous am waith o fewn y BBC. Siaradodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, gyda’r plant a dwedodd wrthynt y byddai hi wrth ei bodd petai bob un ohonynt yn gweithio yno rhyw ddydd, a bod gymaint o gyfleodd gwych ar gael i bawb.

Yn ystod rhaglen Ysgol Haf Ewch Amdani, mynychwyd Coleg Merthyr Tudful gan blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadel gofal, a chafwyd taith gyflawn oedd yn dangos y gwahanol gyrsiau a oedd ar gael a’r modd y maent yn gymwys i bawb. Roedd modd i’r dosbarth gael profiad ymarferol wrth gymryd rhan mewn pynciau megis peirianneg, adeiladwaith, gwallt, harddwch ac astudiaethau creadigol. Terfynwyd y daith o fewn ystafell Shwmaeronment, lle trafodwyd pwysigrwydd y Gymraeg.

Bu cyfle hefyd i fynd ar daith o amgylch adeilad EE ac i weld y rheini a oedd wrth eu gwaith, ystafelloedd cyfarfod, ystafell gemau a’r ffreutur. Dysgodd y bobl ifainc am Seren y Dyfodol, rhaglen a gynhelir gan EE ar gyfer pobl ifainc pedair blwydd oed ar ddeg ac yn hŷn am ddwy flynedd yn olynol. Bob pythefnos byddant yn mynychu EE yn ystod oriau ysgol er mwyn canolbwyntio ar gwrs fydd yn eu paratoi at ddibenion gwaith yn cynnwys: TG, sgiliau technegol a gwasanaeth cwsmer, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, yn ogystal â chyflwyniad i’r brentisiaeth maent yn ei gynnig. Eglurwyd wrthynt petai’r unigolion yn dangos ymrwymiad llawn megis presenoldeb da ac ymagwedd gadarnhaol tuag at y rhaglenni yna dyna’r unig gymwysterau sydd eu hangen arnynt a byddant yn sicr o gael yr opsiwn i ddewis prentisiaeth EE.

Wrth ymweld â Chanolfan Gymunedol Cwmpawd, bu’r dosbarth yn mwynhau sesiynau lle'r oedd modd iddynt roi cynnig ar bynciau megis Celf Ewinedd, Gwallt, Adeiladwaith, Crochenwaith yn ogystal â gweithdy CV. Roedd y gweithdy CV yn wych, nid oedd llawr yn gwybod beth oedd CV ar ddechrau’r sesiwn ond erbyn diwedd y sesiwn roedd gan bawb ddealltwriaeth dda yn ogystal â chopi papur i fynd adref â nhw o’r hyn y byddent yn ei ysgrifennu ar eu CV y nhw eu hunain.

Cafwyd diwrnod llwyddiannus arall wrth ymweld â Phrifysgol De Cymru, lle rhoddwyd taith dywys addysgiadol iawn o’r campws i’r dosbarth, cafwyd cyfle i eistedd mewn theatr ddarlithio a siaradwyd â’r bobl ifainc am y gwahanol gyrsiau gellir eu hastudio yn y Brifysgol. Eglurwyd bod y plant yn gymwys i dderbyn ffioedd dysgu yn rhad ac am ddim a llety ac arweiniodd hyn at naw o’r plant yn datgan, yn dilyn yr ymweliad, eu bod nawr am fynychu’r brifysgol.

Roedd diwrnod lle bu’r plant yn ymweld â Gorsaf Bŵer Aberddawan, eglurwyd y modd y maent ar hyn o bryd yn y broses o ddymchwel yr orsaf bŵer er mwyn troi’r safle’n ganolfan ddiwydiannol werdd a fydd yn denu llawer o gyflogwyr newydd a chyfleuster hamdden a chyflogaeth yn y dyfodol.

Derbyniodd y plant ymweliad gan y Foneddiges Katherine o Gastell Ffwl-y-mwn, a siaradodd am hanes y castell, ei swyddogaeth hi o fewn y castell, yn cynnwys yr holl arddio sy’n mynd yn ei flaen. Daeth hi â hadau blodau’r haul, potiau a gwrtaith a’u rhoi i bob un fel y gallai pawb blannu’r hadau a mynd adref â nhw yn y potiau.

Ar ddiwrnod terfynol y rhaglen, cyrhaeddodd y plant Langors lle cafodd y dosbarth gyfle i ddringo, ogofau, a rhoddodd rhai ohonynt gynnig ar abseilio. Cafwyd gymaint o fwynhad gan bawb ac roedd yn ffordd wych o orffen yr wythnos.

Meddai Deb Ryan Newton, Rheolwraig Cyflogadwyedd Merthyr Tudful: “Ers ei ddechreuad cyntaf un yn 2020, mae’r rhaglen Llwybr i Waith wedi ffynnu ac wedi datblygu’n fenter gadarn, gefnogol sy’n cynorthwyo i ffurfio dyfodol ein pobl ifainc sy’n gadel gofal ac sy’n rhoi cipolwg cynnar iddynt o’r byd addysg uwch, sgiliau a chyflogaeth.

“Canolbwyntiodd y prosiect Ewch Amdani ar wneud opsiynau gyrfaol yn hwyl ac yn addysgiadol ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth a ddaw o’n plant ifainc mewn gofal a dyfodol y rhaglen Llwybr i Waith.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni