Ar-lein, Mae'n arbed amser
‘Rhagoriaeth mewn Tai Newydd’ enwebiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Gwobrau Tai Cymru 2023
- Categorïau : Press Release
- 01 Tach 2023

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tai Cymru 2023 ar gyfer ‘Rhagoriaeth mewn Tai Newydd’ o ganlyniad i gynllun Fflatiau Pen y Dre/ Canolfan Gymunedol Hwb. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng ngwesty Mercure, Caerdydd ar ddydd Iau'r 30ain o Dachwedd.
Anelir y wobr at brosiectau sy’n gallu dangos yn glir y modd y datblygwyd dull arloesol sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau’r tenantiaid a’r cwsmeriaid.
Yn 20220/23, llwyddom i gael gafael ar £1,129,174 o nawdd o’r Gronfa Gofal Integredig er mwyn ymateb i anghenion llety pobl ifanc rhwng 16-24 mlwydd oed ym Merthyr Tudful. Clustnodwyd yr arian er mwyn adnewyddu adeilad a oedd yn perthyn i’r cyngor ar ystâd y Gurnos, a chrëwyd pum uned o lety oedd ag un neu ddwy ystafell. Mae’r unedau hyn wedi eu dylunio’n arbennig i ddiwallu anghenion pobl ifanc sydd yn y cyfnod pontio wedi iddynt adael gofal maeth neu lety gofal corfforaethol, yn ogystal â’r sawl o fewn y grŵp oedran sy’n ddigartref.
Mae’r adeilad yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi pobl ifanc ac oedolion i gael mynediad i raglenni hyfforddi a chynyddu eu cyflogadwyedd. Mae yno dri adeilad sy’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi galwedigaethol ac amgylchedd ddysgu profiadol. Mae’r gweithdai yn cynnwys gwaeth saer, plymwaith, gwaith metal a gwaith ym maes adeiladu, siop drin gwallt broffesiynol a gweithdy seramig ymhlith eraill.
Mae’r weithred o integreiddio cefnogaeth dai a hyfforddiant galwedigaethol yn darparu cyfle unigryw i bobl ifanc gael mynediad i gartrefi modern, diogel wrth fuddio o gyfleoedd hyfforddi ar y safle. Mae’r dull cyfunol hwn yn cynyddu eu hintegreiddiad cymdeithasol, mae’n lleihau’r peryg o unigedd, ac mae’n angefnogol o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Drwy gyfuno llety a chefnogaeth gyda chyfleoedd hyfforddi galwedigaethol nid yn unig ydym yn darparu lle i fyw ond rydym hefyd yn rhoi’r sgiliau a’r addysg angenrheidiol iddynt er mwyn eu galluogi i astudio ymhellach neu i ddechrau gweithio, a thrwy hynny rydym yn cynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant hir dymor.
Mae ein prosiect yn gosod pwyslais mawr ar ataliaeth ac ymyrraeth gynnar i bobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed sydd wedi bod drwy’r system ofal. Drwy ymyrryd yn y cyfnod allweddol hwn, rydym yn ymateb i’w hanghenion mewn ffordd gadarnhaol ac rydym yn cynyddu’r siawns iddynt allu byw’n annibynnol yn llwyddiannus. Mae’r prosiect yn cefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu dyheadau drwy roi cartref sefydlog a chefnogol iddynt a thrwy eu galluogi i gyflawni eu gobeithion. Mae’r cynllun hefyd yn gwella’r cyfnod pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion, drwy sicrhau system gefnogaeth barhaol, ddi-dor. Drwy roi celfi yn y fflatiau hyn, rydym yn anelu at roi’r dechrau gorau posib i’r bobl ifanc.
Meddai’r Cynghorydd Michelle Symonds, yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai;
“Mae ein cynllun Fflatiau Pen y Dre/ Canolfan Gymunedol Cwmpawd yn enghraifft o’n hymroddiad i newyddbethau a llesiant ein cymunedau. Mae’n profi ein hymroddiad i ddarparu cartrefi sydd nid yn unig yn ymateb i anghenion uniongyrchol ein pobl ifanc ond sydd hefyd yn rhoi sgiliau hanfodol a chefnogaeth iddynt ar gyfer dyfodol mwy disglair.
“Mae hi’n fraint cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tai Cymru 2023, rhywbeth sy’n cydnabod ein hymdrechion i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein tenantiaid a’n cwsmeriaid.”