Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynlluniau cyffrous ar gyfer Castell Cyfarthfa
- Categorïau : Press Release
- 20 Ion 2025

Mae cynlluniau cyffrous ar droed ail-ddatblygu Castell Cyfarthfa.
Yn dilyn cyhoeddi ‘Cynllun Cyfarthfa’ yn 2021, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cyfarthfa i archwilio dulliau o ddatblygu Cyfarthfa a chadw’r safle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y datblygiad yn digwydd mewn sawl cam, gyda cham un i warchod a gwella ochr 'Plasty' yr adeilad – lle mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa – yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Bydd y cynlluniau'n cynnwys gwaith allanol i'r adeilad a gwneud y mwyaf o’r gofod mewnol gan gadw'r Amgueddfa a chefnogi parhad gweithgareddau sydd eisoes yn cael eu cyflwyno yno. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori'n helaeth ag ysgolion a'r gymuned leol.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros Adfywio: "Mae Castell Cyfarthfa yn adeilad eiconig ac yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Trysor' ym Merthyr Tudful.
"Mae'n rhan hynod bwysig o dreftadaeth a hanes cyfoethog, nid yn unig Merthyr Tudful, ond De Cymru, felly mae'n hanfodol ein bod yn ei warchod a'i gadw. Rwy'n falch iawn o weld y cynlluniau hyn yn dechrau cael eu datblygu."
Mae trafodaethau â chyllidwyr wedi dechrau a bydd cynlluniau manylach yn cael eu rhannu wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori helaeth ag ysgolion a'r gymuned leol i lunio'r cynlluniau hyn a sut y maent yn rhan o'r datblygiadau tymor hwy yng Nghyfarthfa.