Ar-lein, Mae'n arbed amser

Estyn ymgynghoriad i’r opsiynau ar gyfer Ysgol Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-16

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Gor 2021
New catholic school

Mae’r ymgynghoriad ar leoliad ysgol unigol pob oed newydd Merthyr Tudful, sef Ysgol Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir, yn cael ei estyn i roi cyfle arall i breswylwyr lleol a rhanddeiliaid eraill wneud sylwadau am y cynigion. 

Mae’r Cyngor wedi cytuno i roi estyniad i arolwg opsiynau’r safle a gyflawnwyd yn Ebrill/Mai 2021 yn dilyn pryderon a fynegwyd gan breswylwyr wardiau Galon Uchaf, Penydarren a’r Gurnos.

Caiff holl ddefnyddwyr eraill caeau chwarae’r Greenie, sef rhieni, staff, llywodraethwyr yr ysgol, plwyfolion a phartïon eraill sy’n mynegi diddordeb, eu hannog hefyd i fynegi barn.

Pan fydd yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad wedi cael eu derbyn, caiff adroddiad terfynol ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad.

Nodwch: os ydych chi eisoes wedi cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yn ystod Ebrill / Mai 21 yna caiff hwn ei gynnwys yn adroddiad terfynol yr ymgynghoriad i’r Cyngor.

Dyma’r ddau opsiwn:

  • Opsiwn 1 – adeilad yr ysgol wedi ei leoli ar Gaeau Blodyn Menyn gyda’r holl gyfleusterau parcio a gollwng teithwyr ar yr un ochr o’r ffordd ag adeilad yr ysgol. Byddai yno hefyd ddefnydd a rennir o ran maes pêl-droed gwaelod y Greenie, gwell cyfleuster pob tywydd, gyda pharcio i geir yn cael ei ddarparu fel bod y gymuned yn cael mynediad y tu allan i oriau ysgol.
  • Opsiwn 2 – adeilad yr ysgol gyda maes parcio a man gollwng teithwyr wedi eu lleoli ar gaeau chwarae’r Greenie, gyda’r ddau faes chwarae yn cael eu hadleoli i gaeau Blodyn Menyn. Byddai un o’r caeau chwarae yn gyfleuster pob tywydd a rennir, a byddai’r cae arall yn hygyrch i’r gymuned ar bob adeg.

Os oes opsiynau safle eraill yr hoffech i ni eu hystyried mae cyfle yn yr arolwg ymgynghori i ddweud hyn wrthym o dan Opsiwn 3 - Safle Amgen.

Bydd yr ymgynghoriad bellach yn rhedeg o ddydd Iau 15 Gorffennaf 2021 tan ddydd Llun 6 Medi 2021. Gellir cael mynediad at arolwg yr ymgynghoriad a chynlluniau o’r safle ar-lein drwy’r ddolen ganlynol https://www.merthyr.gov.uk/vaschool

Neu gellir gofyn am gopïau caled oddi wrth y Cyngor, un ai drwy ffonio 01685 725000 neu e-bostio 3-16vaschool@merthyr.gov.uk

Cwblhewch yr arolwg ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen uchod neu ar gopi caled a’i ddychwelyd i’r Cyngor wedi ei nodi fel hyn: At Sylw’r Prosiect Ysgol 3-16

Disgwylir i’r ysgol newydd a gynlluniwyd agor ar y safle dewisedig yn ystod mis Medi 2023. Wrth ei adeiladu bydd yr ysgolion presennol canlynol yn cau: Ysgol Uwchradd Esgob Hedley, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Aloysius, a Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Sant Illtyd a’r Santes Fair.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Lisa Mytton: “Rydym wedi gwrando ar bryderon preswylwyr ac estyn yr ymgynghoriad fel eu bod yn gallu eu mynegi. Mae angen dybryd am yr ysgol hon, ac rydym am ddod o hyd i’r ateb gorau ar gyfer y gymuned i gyd -  sef disgyblion, preswylwyr lleol a defnyddwyr y caeau.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni