Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ffeindiwch eich ffordd ar ein llwybrau newydd
- Categorïau : Press Release
- 04 Medi 2019
Mae pobl sy’n hoff o gerdded, rhedeg neu seiclo ar lwybrau hyfryd Merthyr Tudful yn gallu gweld pa mor bell maen nhw wedi teithio bellach heb gymorth technoleg.
Ni fydd angen Garmin na Fitbit arnoch i ddilyn eich trywydd ar rannau o Daith Taf, diolch i dwmpathau sy’n nodi’r cilometrau ar hyd dau lwybr newydd dynodedig.
Mae Tîm Heini Merthyr y Cyngor a’r Adran Hawliau Tramwy wedi datblygu’r llwybrau i annog preswylwyr i wneud y mwyaf ohonynt wrth iddynt fod yn actif hefyd.
Ceir llwybr 6km o Ganolfan Hamdden Merthyr Tudful i Ganolfan Hamdden Aberfan a llwybr 4k sy’n dechrau ar Daith Taf yng Nghefn Coed y Cymmer, gan anelu i’r gogledd tuag at Ffynnon Dwyn, Pontsarn. Mae’r ddau’n hawdd, yn heddychlon ac yn addas i bob gallu.
Hoffai Heini Merthyr weld lluniau ohonoch yn mwynhau’r llwybrau. Tagiwch ni -@Activemerthyr ar Facebook neu Twitter