Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pum Ffordd Hanfodol i Amddiffyn Eich Hun rhag Masnachwyr Twyllodrus
- Categorïau : Press Release
- 06 Mai 2025

Mae masnachwyr twyllodrus yn defnyddio tactegau rhoi pwysau i wneud i chi gytuno i weithio. Amddiffynnwch eich hun gyda'r camau syml hyn:
- Gwiriwch – Gofynnwch am ID, gwirio adolygiadau ar-lein, a gwirio eu cymwysterau gyda chymdeithasau masnach swyddogol.
- Peidiwch â theimlo dan bwysau – Cymerwch eich amser a pheidiwch â chytuno i unrhyw beth yn gyflym. Mae tactegau gwerthu pwysedd uchel yn faner goch.
- Gwiriwch y Gwaith Papur – Darllenwch gontractau bob amser yn ofalus a sicrhewch eu bod yn cynnwys manylion llawn am y gwaith, costau, a hawliau canslo.
- Peidiwch byth â Talu o Flaen Llaw – Ni fydd masnachwr dilys yn mynnu symiau mawr o arian cyn i'r gwaith ddechrau.
- Siaradwch â chymdogion - efallai eu bod wedi profi'r un mater. Gallai sgwrs gyflym atal rhywun arall rhag dioddef.
Gwybod eich hawliau canslo!
Wrth gytuno i gontract defnyddiwr gartref, fel arfer mae gennych gyfnod ailfeddwl 14 diwrnod lle gallwch ganslo am unrhyw reswm heb gosb, o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013.
- Rheol 14 diwrnod – Fel arfer mae gennych 14 diwrnod i ganslo ar ôl cytuno.
- Does dim angen rheswm – Gallwch ganslo heb esboniad.
- Ad-daliad llawn – Os ydych yn canslo o fewn 14 diwrnod, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn.
- Hysbysu - Rhowch wybod i'r gwerthwr yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod.
Eithriadau i hawliau canslo:
- Nwyddau gwerth isel – Efallai na fydd rhai pryniannau bach yn cael eu cynnwys.
- Rhai gwasanaethau ariannol - Mae gan rai gwasanaethau fel contractau yswiriant reolau canslo gwahanol.
- Nwyddau personol – Os oes eitem wedi'i gwneud yn benodol i chi, efallai na fydd hawliau canslo yn berthnasol.
Darllenwch y contract yn ofalus bob amser cyn arwyddo. Cadwch dystiolaeth o ganslo yn ysgrifenedig. Cysylltwch â Safonau Masnach i gael cyngor os nad ydych yn siŵr.
Os ydych chi'n teimlo'n anniogel, caewch y drws a ffoniwch rywun am gyngor. Credwch yn eich greddf bob amser!