Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Bwyd a Hwyl YN ÔL! Ac eleni mae’n well fyth!
- Categorïau : Press Release
- 12 Gor 2023

Rydym wrth ein bodd i rannu’r newyddion bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Llywodraeth Cymru'n croesawu Bwyd a Hwyl yn ôl i’r Fwrdeistref; ac mae’n fwy fyth ac yn well fyth eleni.
Eleni mae cynifer a phymtheg ysgol wedi ymrwymo i’r cynllun – cynnydd o 650%.
O gychwyn y cynllun ar y 25ain o Orffennaf hyd ei ddiwedd ar y 9fed o Awst, bydd yr ysgolion hyn yn ymroddi i gefnogi teuluoedd gyda 12 diwrnod o weithgareddau atyniadol, fydd yn canolbwyntio ar iechyd, hapusrwydd a lles. Drwy weithio mewn partneriaeth byddant yn sicrhau bod gan blant ym Merthyr ffordd o gael deuddeg diwrnod o brydiau bwyd iachus a chyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg ymbortheg a gweithgareddau corfforol.
“Mae fy mab wedi dysgu gymaint drwy Bwyd a Hwyl. Mae’n dychwelyd adref bob dydd ac yn sôn wrthyf am y negeseuon bwyta’n iach cafodd o’r sesiynau ac mae wedi gofyn i ni ddechrau cymryd rhan mewn rhagor o weithgareddau corfforol fel teulu.” (rhiant plentyn sy’n mynychu ysgol y Bendigol Carlo Acutis: Sant Aloysius wedi’r digwyddiad y llynedd)
Gweler isod restr gyflawn o’r ysgolion sy’n cymryd rhan eleni;
- Ysgol Gynradd Gymunedol Abercannaid
- Y Bendigol Carlo Acutis: Sant Aloysius
- Y Bendigol Carlo Acutis: Sant Illtyd
- Ysgol Gynradd Coed y Dderwen
- Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa
- Ysgol Uwchradd Cyfarthfa
- Ysgol Gynradd Dowlais
- Ysgol Gynradd Goetre
- Ysgol Gynradd Gellifaelog
- Ysgol Gynradd Gwaunfarren
- Ysgol Arbennig Greenfield
- Ysgol Gynradd Pantysgallog
- Ysgol Gymunedol Troed-y-Rhiw
- Ysgol Gymunedol Ynysowen
- Ysgol Gynradd Gymunedol Y Graig
Am ragor o fanylion, cysylltwch â;
Fairyal Pabani, Cydlynydd Bwyd a Hwyl yr Awdurdod Lleol Fairyal.Pabani@merthyr.gov.uk
Janine Brill, Swyddog Gweinyddol a Chefnogol Bwyd a Hwyl janine.brill@wales.nhs.uk