Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn ystod y gwyliau am hwyl a bwyd

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 04 Awst 2021
St Aloysius50

Mae disgyblion ysgol yn Merthyr Tudful yn dychwelyd i’r ysgol yn fodlon yr haf hwn – fel rhan o fenter i’w gwneud yn iach, hapus a sicrhau eu bod yn cael digon o ymarfer corff.

Mae disgyblion o ysgolion gynradd Goetre, St Aloysius RC, St Mary’s RC a St Illtyds wedi bod yn mwynhau prydiau bwyd, addysg am faeth a sesiynau ymarfer corfforol tebyg i bêl-droed, rygbi a phêl-fasged  fel rhan o Raglen Gyfoethogi Hwyl a Bwyd Gwyliau’r Haf neu SHEP (School Holiday Enrichment Programme.)

Mae Gwasanaeth Prydiau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod yn gweithio’n agos gyda sefydliadau tebyg i Merthyr Heini, er mwyn darparu’r prosiect yn yr ysgol.

Yn cynnal am 12 diwrnod dros 3 wythnos ar ddechrau gwyliau'r haf, mae’r sesiynau’n dechrau gyda brecwast am 9am, ac yn gorffen gyda cinio, yn dod i ben am 1:30pm.

“Mae gwyliau’r haf yn gyfnod anodd i deuluoedd sydd ar incwm isel,” meddai Lisa Mytton, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Addysgu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.  “Mae plant sy’n derbyn prydiau cinio am ddim yn yr ysgol yn aml yn mynd heb brydiau ac eisiau bwyd unwaith fydd yr ysgol yn cau dros yr haf. Mae’r diffyg cynlluniau chwarae am ddim a gweithgareddau chwaraeon yn cael effaith ar y plant mwyaf difreintiedig.

“Mae diffyg ymarfer corff a llai o brydiau maethlon yn ystod gwyliau’r ysgol yn atgyfnerthu anghydraddoldeb iechyd sy’n bodoli ac yn tanseilio llwyddiannau polisïau brecwast a chinio’r ysgol,” ychwanegodd.

“Mae hon yn fenter wych ac rydwi’n filch iawn i gael y rhaglen ym Merthyr Tudful.”

Mae Hwyl a Bwyd yn rhaglen aml asiantaeth a ariannir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei hwyluso gan Awdurdod Lleol Llywodraeth Cymru i ddarparu prydiau iach a gweithgareddau ymarfer corfforol ar gyfer plant yn ystod gwyliau’r haf.

Mae 21 o awdurdodau lleol Cymru yn cymryd rhan eleni, gan gwmpasu cyfanswm o 140 o Gynlluniau Bwyd a Hwyl - mae hynny'n estyn allan i 8000 o ddisgyblion!

Mae staff prydau ysgol Merthyr Tudful a staff ysgol hefyd yn rhoi o’u hamser yn ystod y gwyliau haf i helpu i redeg y cynllun rhwng 22 Gorffennaf a 6 Awst.

Eleni, mynychodd Maer Merthyr Tudful, y Cynghorydd Malcolm Colbran, sesiynau yn Ysgolion Goetre a St Aloysius, gan gymryd rhan yn rhai o'r gweithgareddau a hyd yn oed fwynhau cinio gyda'r plant yn Ysgol Gynradd St Aloysius. Meddai, “Roeddwn yn falch iawn o fynd draw i’r ysgolion yr wythnos hon i weld y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol ar waith. Roedd y gweithgareddau a'r bwyd yn wych ac roedd yn hyfryd gweld y plant yn mwynhau eu hunain!”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni