Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyn fecws yn ail agor ei ddrysau fel bistro a gwesty moethus
- Categorïau : Press Release
- 14 Maw 2022

Nid yn unig datblygu enw fel cyrchfan bwyd mae Merthyr Tudful, ond mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen o agor gwesty bychan moethus sydd i agor yn yr Hydref.
Mae adeilad amlwg y cwmni pobi Howfield & Son yn cael ei adfywio fel bistro a gwesty, a hefyd yn cynnig fflatiau hunanarlwyo.
Mae’r adeilad ar y Stryd Fawr yn cael ei newid gyda gwerth £1.5m o waith a fydd yn cynnwys bistro/bar ar y llawr gwaelod, a hotel bychan a 23 fflat o ‘safon uchel’.
Mae Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful wedi helpu'r datblygwr RWP Properties I dderbyn grantiau o £462,000 a benthyciaf o £308,000 gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae’r project yn rhan o gynllun 15 mlynedd Ganol Tref Merthyr Tudful, sy’n cysylltu gydag agenda Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy’n ceisio cynyddu'r niferoedd yn dod i ganol trefi a throi adeiladau gwag yn rhai ffyniannus.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio y Cyng. Geraint Thomas : “Rydym wrth ein boddau gweld adfywiad canol tref Merthyr Tudful gyda’r project cyffrous ac amserol yma.
“Bydd yn adfywio canol y dref, gan greu cartrefi moethus, sydd ond fel arfer i’w gweld mewn dinasoedd.
“Bydd hyn yn cefnogi a gwella'r cynnig i dwristiaeth yn y fwrdeistref sirol ac yn creu cartrefi a thŷ bwyta moethus ar gyfer economi gyda’r nos y dref.”
Dwedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru Lee Waters: “Mae Trefi a Dinasoedd wedi wynebu heriau sylweddol yn ddiweddar.
“Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn ceisio cefnogi tyfiant yn y canolfannau hyn gan sicrhau eu bod yn lleoedd da i fyw, gweithio ac ymweld yn y dyfodol.
“Mae’r project yma ym Merthyr Tudful yn esiampl wych o’r hyn y gellir ei gyflawni a hoffwn i longyfarch pawb am gyflwyno'r rhaglen lwyddiannus hon.”
Dwedodd Richard Powell, Cyfarwyddwr cwmni RWP o Lyn Nedd: “Rydw i wedi bod yn gwylio'r hyn sy’n digwydd ym Merthyr Tudful, a chymaint sydd wedi newid a datblygu yn ddiweddar. Pan ddaeth yr adeilad cywir ar y farchnad, redden ni fel busnes yn awyddus iawn i’w brynu.”
Dwedodd Richard fod lleoliad yr adeilad o fewn tafliad carreg i’r orsaf fysiau newydd ac o’r maint cywir i greu rhywbeth gwych i’r dref.
Ychwanegodd: “ Rydym yn creu datblygiad y gall RWP Properties a phreswylwyr Merthyr Tudful fod yn falch ohono. Roedd cwmni Mr Howfield a’i deulu yn berchen yr adeilad am amser hir ac wedi cyflogi llawer o bobl leol dros y blynyddoedd.
“Rydym yn creu fflatiau ac adeilad ar gyfer preswylwyr a busnesau Merthyr Tudful sy’n unigryw i’r Stryd Fawr.”
Disgwylir i’r project ddod i ben ym mis Medi 2022, ac mae’r cwmni yn gweithio yn agos gyda’r Cyngor wrth chwilio am denantiaid at y dyfodol.
Llun CGI wedi'i gredydu i:
George and Co ltd.
Pensaernïaeth + Dylunio