Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyn Gartref Gofal Seibiant Llysfaen Cefn Coed Y Cymer

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Hyd 2022
Llysfaen

Mae Cymdeithas Dai Merthyr Tudful mewn cydweithrediad gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ceisio eich safbwynt ar ailddatblygu'r cyn cartrefi gofal seibiant Llysfaen, Cefn Coed y Cymer ym Merthyr Tudful ar gyfer datblygiad tai.

Byddwn yn cynnal arddangosfa gyhoeddus yng Nghanolfan Gymuned Cefn, (Stryd yr Eglwys Newydd, Cefn Coed Y Cymer, Merthyr Tudful, CF48 2NA) rhwng 2:30pm a 4:30pm ddydd Mercher Hydref  26ain 2022.

Safle: Cyn Cartrefi Gofal Seibiant Llysfaen, Cefn Coed Y Cymer, Merthyr Tudful, CF48 2NE

Y Cynnig: Newid defnydd ac adnewyddu i greu 10 cartref fforddiadwy a gwaith perthnasol

Llety: Cymysgedd o dai i gynnwys dau fflat un ystafell wely hygyrch, pedwar fflat un ystafell wely, dau fflat dwy ystafell wely a dau fflat deulawr dwy ystafell wely.

Mae hwn yn gyfle i chi ddweud wrthym beth ydych yn feddwl o’r cynllun cyn i ni gyflwyno’r cais i’r Awdurdod Cynllunio.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni