Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyn ddisgyblion Pen y Dre wrth eu bodd i dderbyn Gwobr Aur Dug Caeredin

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Mai 2023
PenAward

Roedd yn anrhydedd i bedwar o bobl ifanc ysbrydoledig gael eu gwahodd i Balas Buckingham yn gynharach y mis hwn lle derbyniodd pob un ohonynt Wobr Aur Dug Caeredin (DofE).

Wedi’i sefydlu ym 1956, mae Gwobr Dug Caeredin yn cael ei chydnabod yn eang fel prif wobr cyflawniad ieuenctid y byd. Bellach yn gweithredu mewn mwy na 140 o wledydd, mae'r DofE wedi helpu i drawsnewid bywydau miliynau o bobl ifanc yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Graddiodd Rachael Warner, Sophie France, Arianwen Hagerty a Niamh Winstone o Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful, yn haf 2019, fel deiliaid gwobr Arian DofE.

Yn benderfynol o beidio â gadael i’r daith ddod i ben yno, ac er bod y disgyblion wedi gadael yr ysgol, fe barhaodd arweinydd DofE a Phennaeth y Gymraeg ym Mhen y Dre, Mr Mark Morgan i arwain y grŵp yn llwyddiannus at y nod eithaf o dderbyn eu gwobrau Aur.

Yn ystod rhaglen DofE, roedd y pedwar person ifanc yn wynebu alldeithiau heriol, gan deithio i Fannau Brycheiniog, Gogledd Ffrainc a Mynyddoedd Wicklow yn Ne Iwerddon.

Parhaodd y grŵp i dyfu a datblygu eu sgiliau Cymraeg gan ragori yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol, gan ennill sawl medal aur.

Fel rhan o’u taith wobrwyo, buont hefyd yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn wrth wirfoddoli’n lleol, rhoi yn ôl i Ferthyr a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl a’r cymunedau.

Dywedodd Arweinydd Gwobr DofE, Mark Morgan, Pennaeth y Gymraeg ym Mhen y Dre;

“Roedd y merched ifanc hyn yn ddisgyblion rhagorol tra ym Mhen y Dre, gan gyflawni yn aruthrol yn academaidd ac mewn llu o weithgareddau allgyrsiol.

Maent yn parhau i fod yn fodelau rôl rhagorol ar gyfer y disgyblion presennol a chymuned ieuenctid Merthyr Tudful i gyd.

Maen nhw’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth hon ac rydyn ni i gyd yn hynod falch ohonyn nhw.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni