Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Pythefnos Gofal Maeth yma i ddathlu gofalwyr anhygoel Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Mai 2020
Foster Care Fortnight logo (English).jpg

Bydd Pythefnos Gofal Maeth yn cychwyn yr wythnos yma. Mae hon yn ymgyrch flynyddol ledled y DU a drefnir gan yr elusen flaenllaw, Y Rhwydwaith Maethu. Mae’n gyfle inni dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ein gofalwyr yn ei wneud, ac annog mwy o bobl i ystyried maethu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Davies, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Rydyn ni bob amser yn gwerthfawrogi’r gwaith gwych y mae ein gofalwyr maeth yn ei wneud, ond mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle inni ddathlu eu gwaith diflino wrth gefnogi rhai o’r plant a’r bobl ifanc mwyaf bregus yn ein cymuned. Ni allaf ddiolch digon iddynt am eu hymdrechion, yn enwedig yn ystod y cyfnod o ansicrwydd y mae pawb yn ei wynebu ar hyn o bryd.”

Pan ddewch yn ofalwr maeth i ni, byddwch yn derbyn pecyn hael sy’n cynnwys ffioedd a lwfansau cystadleuol, aelodaeth hamdden am ddim i’r teulu, mynediad i ddiwrnodau allan ac atyniadau ar gostau is, gostyngiadau ar ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau, a chyfleoedd rhagorol i ddysgu a datblygu.

Yn ddiweddar, ategwyd y pecyn hwn gan y newyddion y bydd gofalwyr maeth a gymeradwywyd i dderbyn ffi am eu maethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, hefyd yn cael cymhelldal o 50% tuag at fil blynyddol y Dreth Gyngor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: “Rydyn ni’n gwybod nad yw ein gofalwyr maeth yn cyflawni’r rôl hanfodol hon am wobr ariannol; fodd bynnag, rydyn ni’n gobeithio y bydd y pecyn rhagorol sydd gennym ar waith yn helpu i’w cefnogi yn eu rôl ac yn dangos ein gwerthfawrogiad o’r gwaith anhygoel y maen nhw’n parhau i’w wneud.”

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y pecyn hwn yn annog mwy o bobl sy’n byw yn yr ardal i gynnig bod yn ofalwyr maeth gyda ni. Mae croeso hefyd i geisiadau trosglwyddo gan ofalwyr maeth sy’n byw ym Merthyr Tudful ac sydd ar hyn o bryd yn gweithio i asiantaethau maethu eraill.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn ofalwr maeth, gallwch hoffi tudalen Maethu Merthyr ar Facebook, a gallwch chi hefyd fynd i www.fostercwmtaf.co.uk neu gysylltu â ni ar 01443 425007 am sgwrs dros y ffôn heb unrhyw rwymedigaeth.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni