Ar-lein, Mae'n arbed amser

“Mae Maethu Cymru Merthyr yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ei gofalwyr a phlant, maen nhw’n eu rhoi nhw’n gyntaf”

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Awst 2023
FC EPC

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Merthyr Tudfil yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Merthyr – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dwedodd Joanne Llewellyn, Pennaeth Gwasanaethau Plant Merthyr Tudful:
“Rwy’n credu bod Cymru’n arwain y ffordd o ran datblygu gofal sydd ddim am elw i blant sy’n derbyn gofal. Mae’r polisi hwn yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirdymor i ofal pobl ifanc yng Nghymru.

Yma ym Maethu Cymru Merthyr Tudful, rydym yn edrych ar sut mae ein gwasanaethau o fudd i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol.

Trwy faethu gyda’ch awdurdod lleol, a ddim am elw, byddwch yn derbyn cefnogaeth barhaus, cyfleoedd hyfforddi parhaus, yn ogystal â bod yn rhan o’n cymuned faethu wych yma ym Merthyr.

Yn hollbwysig, trwy faethu gyda’ch awdurdod lleol, rydych chi’n rhoi cyfle i bobl ifanc aros yn agos at eu teuluoedd, ffrindiau, rhwydweithiau cymorth ac ysgolion. Mae aros yn lleol yn gwneud cymaint o wahaniaeth yn eu bywydau.

Ym Maethu Cymru Merthyr Tudful rydym bob amser yn chwilio am bobl garedig, ymroddedig a hoffai wybod mwy am faethu. Mae ein cymunedau lleol yn allweddol i wneud i’r newid hwn ddigwydd; holwch heddiw gyda Maethu Cymru Merthyr Tudful.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Esboniodd y gofalwyr maeth Ron a Jacquie, a newidiodd o asiantaeth annibynnol i Faethu Cymru Merthyr, eu taith – a’r gwahaniaeth y maent wedi’i weld wrth faethu gyda’r awdurdod lleol:
“Roedden ni bron i dair blynedd i mewn i’n gyrfaoedd maethu a sylweddoli ein bod ni’n teimlo nad oeddem yn cyfri, oherwydd ein bod ni’n barod i frwydro dros blentyn yn ein gofal hirdymor. Fe benderfynon ni gysylltu ag awdurdod lleol Merthyr Tudful yn y gobaith y bydden ni’n gallu parhau i ofalu amdani.

Roeddem yn falch iawn bod ein hawdurdod lleol yn cytuno â ni, a daethom yn ofalwyr maeth Maethu Cymru Merthyr! Nid ydym wedi cael ein siomi. Rydym yn falch iawn o ddweud bod y plentyn wedi mynd ymlaen i fyw’n annibynnol yn llwyddiannus ar ôl naw mlynedd yn ein gofal, diolch i awdurdod lleol Merthyr Tudful.

Y fantais fwyaf dros ymuno â Maethu Cymru Merthyr oedd y teimlad teuluol diffuant, ymhlith a gyda gweithwyr cymdeithasol yr awdurdod. Maent yn awyddus i'n helpu i lwyddo drwy ein hannog i gofleidio ac ymuno gyda grwpiau cymorth ffyniannus. Mae Maethu Cymru Merthyr yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ei gofalwyr a phlant, maen nhw’n eu rhoi nhw’n gyntaf.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i:

https://merthyrtudful.maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/
enquiries@fosterwalesctm.co.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni