Ar-lein, Mae'n arbed amser

Maethu Cymru Merthyr

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 10 Mai 2022
Picture1 (4)

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae teuluoedd, ledled y wlad wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig.

Doedd dim modd gweld anwyliaid, roedd ysgolion ar gau ac roedd cyrchu gwahanol fathau o gymorth yn anodd. Mae cymunedau yng Nghymru wedi canfod ffyrdd eraill o gefnogi ei gilydd yn ystod yr amseroedd caled hyn. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir i deuluoedd sydd yn maethu.

Mae sawl teulu wedi defnyddio’r cyfnod anodd hyn i greu ‘normal newydd’ cadarnhaol – nid yn unig o ran eu bywydau hwy ond ym mywydau plant lleol. Yn ôl Maethu Cymru, dechreuodd dros 350 o deuluoedd faethu gyda’u hawdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19.

Mae Pythefnos Gofal Maeth (9-22 Mai,) sydd yn cael ei chynnal gan Maethu Cymru am ddathlu’r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi eu gwneud i fywydau plant sydd yn byw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae angen dathlu gofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd i’r rheini sydd newydd ddechrau ar eu taith i gynnig dyfodol gwell i blant.

Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch codi ymwybyddiaeth fwyaf Gofal Maeth y DU ac mae’n cael ei threfnu gan elusen sydd yn arwain y ffordd yn y maes; The Fostering Network / Y Rhwydwaith Maethu. Thema eleni yw ‘cymunedau maeth’ a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymroddiad ac angerdd gofalwyr maeth.

Y bwriad yw taflu rhagor o oleuni ar y modd y mae unigolion yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig ac i dynnu sylw at yr angen i sicrhau rhagor o ofalwyr maeth.

Dywedodd Lisa Curtis-Jones, Cyfarwydwr y Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae Pythefnos Gofal maeth yn gyfle perffaith i ddiolch i’n holl Ofalwyr Maeth a’n teluoedd anhygoel sydd yn gwneud swydd mor anodd ac sydd yn parhau i arddangos dealltwriaeth, caredigrwydd a chefnogaeth ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt. Mae Gofalwyr Maeth a’u teuluoedd yn agor eu calonnau a’u cartrefi i blant o bob oed sydd ag anghneion amrywiol ac yn eu cynorthwyo drwy amseroedd anodd yn eu bywydau ond maent hefyd yn cael pleser o weld y datblygiad y maent yn eu gwneud.”

Gan siarad yn uniongyrchol â gofalwyr maeth, meddai Lisa:

“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydych wedi gorfod cymryd mwy o gyfrifoldebau a hynny yn sgil y pandemig; nid yn unig trwy fod yn ofalwyr ond drwy ymddwyn hefyd ar brydiau fel gweithwyr cymdeithasol ac athrawon yn y cartref. Rydych wedi darparu lle diogel i’n plant mewn cyfnod ansicr i bawb. Gwnaeth pob un ohonoch ymateb i’r heriau a rhoi’n plant gyntaf. Mae’ch cryfder a’ch hymroddiad yn amlwg ac roeddwn am ddiolch i chi am agor eich cartrefi a’ch calonau i’n plant a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

Thema eleni yw ‘cymunedau maeth’ sydd yn ceisio dathlu cryfder a gwydnwch cymunedau sydd yn maethu a phob dim y maent yn eu gwneud er mwyn sicrhau fod ein plant yn derbyn gofal, cefnogaeth  ac anogaeth. Mae hyn yn amserol iawn eleni wrrth i ni gofio am heriau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cymunedau sydd yn maethu wedi gorfod cydweithio er mwyn darparu cryfder a gwydnwch i’w gilydd.

Mae gofalwyr maeth a’u teuluoedd yn gwneud swydd arbennig er mwyn trawsffurfio bywydau cymaint o blant a phobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt ac roeddwn am fynegi fy niolch a ‘ngwerthfawrogiad am bob dim yr ydych yn eu gwneud. “

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn un o 22 tîm awdurdodau lleol Cymru sydd yn cydweithio â Maethu Cymru sydd yn rwydwaith cenedlaethol o wasanaerhau maethu nad sydd yn gwneud elw.

Mae Maethu Cymru am annog rhagor o bobl i ddyfod yn ofalwyr maeth ar gyfer eu hawdurdodau lleol fel y gall plant a phobl ifanc aros yn agos at eu ffrindiau a’u teuluoedd a pharhau i fynychu’r un ysgol. Gall hyn gynorthwyo plant a phobl ifanc i gadw ymdeimlad o adnabyddiaeth mewn cyfnod allai fod yn gythryblus ac yn anodd iddynt.

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, rhwydwaith cendlaethol gwasanaethau maethu yr awdurdodau lleol:

“Nid yw’r mwyafrif o bobl yn sylweddoli mai’ch awdurdod lleol, eich cyngor lleol sydd yn gofalu am blant a’u teuluoedd pan fyddant yn profi anawsterau neu pan fydd plant yn byw mewn sefyllfaoedd camdriniol neu’n cael eu hesgeuluso. Eich awdurdod lleol sydd yn dod o hyd i le diogel iddynt ac sydd yn gyfrifol amdanynt.

“Mae gan dîm maethu awdurdod lleol Maethu Cymru gyfoeth o wybodaeth ac mae gweithwyr cymdeithasol ymroddedig yn cydweithio â theuluoedd lleol ac ysgolion lleol er mwyn adeiladu gwell dyfodol i blant lleol.

“Drwy faethu’n lleol, rydych yn cynorthwyo plant i aros yn eu cymunedau lle y mae pob dim sydd o’u hamgylch; yr acen, yr ysgol, ffrindiau a’r gweithgareddau’n gyfarwydd iddynt. Mae’n gymorth i sicrhau eu bod yn aros mewn cyswllt ac yn datblygu sefydlogrwydd a hyder. 

“Byddem yn annog pobl nid yn unig i faethu ond hefyd i faethu â’u hawdurdod lleol sydd yn rhan o Maethu Cymru, sefydliad nad sydd yn gwneud elw sydd yn gyfrifol am blant sydd yn ein gofal.”

Un gofalwr maeth sydd wedi agor ei chartref a’i chalon i blant a phobl ifanc yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf yw Leanne o Ferthyr Tudful. 

Daeth Leanne yn ofalwr maeth â Maethu Cymru Merthyr ym mis Gorffennaf 2020:

“Daethom yn ôl i’r syniad yn gynnar yn ystod 2020 ond yn fuan wedi i ni ddechrau’r broses, daeth y cyfnod clo ac roeddem yn meddwl y byddai hynny’n oedi’r broses. Fodd bynnag, nid dyma oedd yr achos a sicrhaodd ein gweithiwr cymdeithasol ei bod yn ein tywys trwy’r holl broses a’n bod yn derbyn hyfforddiant dros y ffôn, ar-lein a thrwy adnoddau y byddai’n gadael ar stepen ein drws. Roedd yr holl broses yn newydd i ni gyd ond gweithiodd yn dda a chawsom ein cymeradwyo ym mis Gorffennaf 2020.

Mae fy mhlant fy hun wrth eu boddau â’r ffaith fy mod i o amgylch llawer yn fwy nag yr oeddwn i. Rwyf yno bob bore a nos pan fyddant yn gadael ac yn dychwelyd o’r ysgol. Nid wyf yn colli unrhyw un o’u gweithgareddau ac mae fy nghydbwysedd gwaith a bywyd dipyn iachach nag yr oedd o’r blaen.”

Mae Ron a’i wraig, Jacqueline wedi bod yn ofalwyr maeth i blant Merthyr ers bron i 20 mlynedd:

 

“Gall cymryd y cam cyntaf i fod yn ofalwr maeth fod yn ofidus ond hefyd yn gyffrous. Gofidus, yn sgil yr hyn nad ydych yn ei wybod. Hoffwn eich sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael gan dîm ymroddgar o weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr proffesiynol all eich harwain yn yr un modd ag yr ydych chi yn ymestyn llaw o gysur ac yn cynnig gobaith i berson ifanc sydd yn agored i niwed. Mae bod yn rhan o wneud y gwahaniaeth hwnnw i fywyd person ifanc yn gyffrous.

Nid oes dim sydd yn cymharu â’r hapusrwydd a’r bodlonrwydd yr ydych yn eu teimlo o wybod eich bod wedi gwneud cyfraniad pwysig i gynorthwyo plentyn neu berson ifanc trwy gyfnod anodd.”

Er mwyn canfod sut y gallwch chi faethu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fel rhan o Maethu Cymru Merthyr Tudful, ewch i:  www.merthyrtydfil.fosterwales.gov.wales

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni