Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parcio am Ddim i siopwyr Nadolig Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Tach 2022
Free Christmas parking 22

Mae gan siopwyr Nadolig ym Merthyr Tudful gymhelliad arall i ddod i’r dref gan fydd y parcio am ddim yng nghanol y dref, gan gychwyn ar Ddiwrnod Hwyl Nadolig i’r Teulu, ddydd Sadwrn Tachwedd 19.

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ac Ardal Gwella Busnes Calon Fawr Ferthyr Tudful (AGB) yn cyllido parcio am ddim ym meysydd parcio canol y dref pob dydd Gwener a Sadwrn- mae dydd Sul am ddim beth bynnag -tan Ragfyr 31.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mewn blynyddoedd blaenorol mae parcio am ddim cyn y Nadolig wedi bod o fudd mawr i’r economi leol. Mae peidio gorfod talu a phoeni am ddychwelyd i’r car yn golygu bod siopwyr yn gallu ymlacio a mwynhau ein dewis gwych o siopau, tai bwyta, cafes a thafarndai.

Dywedodd Huw Williams, Cadeirydd Ardal Gwella Busnes ‘Big Heart of Merthyr Tydfil’: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi gael parcio am ddim ar y penwythnos ar Ddydd Gwener a Dydd Sadwrn yng nghanol y dref o Ddydd Sadwrn Tachwedd 19 hyd tan 31 Rhagfyr.  Mae hwn yn gadarnhaol enfawr a bydd yn annog siopa tymhorol ac ymwelwyr i'r dref. Mae cefnogi busnesau lleol yn ein tref yn hollbwysig i ‘Big Heart of Merthyr Tydfil."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni