Ar-lein, Mae'n arbed amser
O ddydd Sadwrn y 5ed o Awst bydd gwasanaeth bws Heolgerrig yn dod i ben.
- Categorïau : Press Release
- 03 Awst 2023

Mae’r cwmni bws cyfredol wedi penderfynu dod a’r gwasanaeth hwn i ben; mae’n broblem gyffredin ar draws Cymru gyda nifer o gwmnïau yn gweld effaith y pandemig ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Darparwyd cefnogaeth ychwanegol i’r rhwydwaith fysiau gan Lywodraeth Cymru, ond bydd y gefnogaeth yn lleihau pan ddaw’r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau i ben ar ddiwedd Mawrth 2024.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Geraint Thomas: “Bydd colli cysylltiadau trafnidiaeth mewn rhai ardaloedd yn cael effaith anferth ar nifer o’n cymunedau ni. Bydd gwasanaethau bws yn cael eu lleihau neu’n dod i ben yn gyfan gwbl. Heb drafnidiaeth gyhoeddus, mae nifer o drigolion yn teimlo’n unig iawn sydd yn y pendraw yn mynd i gael effaith ar eu hannibyniaeth a’u lles.
“Rwyf wedi ysgrifennu at ein Haelod Senedd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a Chadeirydd yr Awdurdod Drafnidiaeth Leol yn galw am gyfarfod brys er mwyn gofyn pam fod rhai o’n cymunedau wedi colli eu cysylltiad yn llwyr.
“Ym mis Medi, yn ystod ein cyfarfod Cyngor cyntaf yn dilyn yr egwyl, rwyf hefyd wedi gofyn bod y broblem hon yn cael ei drafod ar fyrder er mwyn cytuno ar gynllun i ni allu symud ymlaen.”