Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Llawn yn cefnogi penderfyniad i flaenoriaethu hawliau pobl ifainc sydd â phrofiad o ofal

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Gor 2024
Care

Cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ddiweddar i gryfhau ymhellach hawliau plant a phobl ifainc sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y system ofal.

Derbyniwyd cynnig, a ddygwyd gerbron y Cyngor gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julia Jenkins, yn unfrydol gan Aelodau’r Cyngor bod y sawl sydd wedi cael profiad o ofal yn cael eu trin fel petai ganddynt nodweddion gwarchodedig. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cydnabod pwysigrwydd Amrywiaeth a Chydraddoldeb ac mae’n ymdrechi i arwain ar hyn drwy sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu hyrwyddo a’u dathlu mewn modd gweithredol. Ar hyn o bryd, mae yna fomentwm yng Nghymru ymhlith Awdurdodau Lleol i gydnabod ‘Profiad o Ofal’ a’i drin fel nodwedd warchodedig.

‌Mae cynghorau lleol yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod aelodau’r gymuned sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu gwarchod a’u darparu gyda’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Un fenter o’r fath sydd ar waith mewn nifer o gynghorau yw’r ymrwymiad i drin y sawl sydd â phrofiad o ofal yn yr un modd â’r sawl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Yn unol â’r cynnig, cydnabydda’r cyngor y modd y mae pobl sydd wedi derbyn gofal yn wynebu rhwystrau sy’n gallu effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau, er eu bod yn aml yn naturiol wydn maent yn gallu wynebu  anffafriaeth a stigma mewn meysydd megis tai, iechyd, addysg, perthnasau, cyflogaeth ac o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Meddai’r Cynghorydd Julia Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae wir yn bwysig blaenoriaethau hawliau a llesiant plant a phobl ifainc sydd wedi cael profiad o’r system ofal. Mae’n wych i weld Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cymryd camau tuag at gryfhau’r hawliau hynny a’r systemau sy’n eu cefnogi. Mae gan bob un plentyn yr hawl i gael eu clywed a’u cefnogi, yn arbennig y sawl sydd wedi cael profiad o’r system ofal. Mae’r penderfyniad hwn yn amlygu’r ymroddiad i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i’r unigolion ifainc hyn. Mae’n gam gwych i’r cyfeiriad cywir ac mi fydd, gobeithio, yn ysbrydoli cymunedau eraill i wneud yr un peth.”

Drwy fabwysiadu’r dull hwn o weithredu bydd y Cyngor yn:

 

  • Cydnabod bod pobl sydd â phrofiad o ofal yn grŵp sy'n debygol o wynebu gwahaniaethu;
  • Cydnabod bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ddyletswydd i roi anghenion pobl ddifreintiedig wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau drwy gydgynhyrchu a chydweithio;
  • Cytuno y dylai penderfyniadau, gwasanaethau a pholisïau a wneir ac a fabwysiadir gan y Cyngor yn y dyfodol gael eu hasesu trwy Asesiadau Effaith Cydraddoldeb i bennu effaith newidiadau ar bobl sydd â phrofiad o ofal, ochr yn ochr â'r rhai sy'n rhannu nodwedd warchodedig yn ffurfiol.
  • Cytuno bod y Cyngor, wrth gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn cynnwys y profiad o ofal wrth gyhoeddi ac adolygu Amcanion Cydraddoldeb a chyhoeddiad blynyddol gwybodaeth yn ymwneud â phobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig mewn gwasanaethau a chyflogaeth.
  • Galw'n ffurfiol ar bob corff arall i drin y profiad o ofal fel nodwedd warchodedig hyd nes y caiff ei gyflwyno gan ddeddfwriaeth.
  • Parhau'n rhagweithiol i chwilio am, a gwrando ar leisiau pobl sydd â phrofiad o ofal wrth ddatblygu polisïau newydd yn seiliedig ar eu barn.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni