Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae GALWAD yma!

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Medi 2022
Galwad

Mae Merthyr Tudful yn ganolog mewn drama gyffrous aml lwyfan i’w gweld ar sianeli digidol a darlledu ac mewn tri lleoliad byw ar draws Cymru dros yr wythnos nesaf.

Mae ‘GALWAD’ ‘Stori o’n Dyfodol’ yn plethu dulliau arferol dweud stori ( drama glywedol, drama deledu a pherfformiad byw) gyda thechnoleg greadigol,’newyddiaduriaeth y dinesydd’ a chyfryngau cymdeithasol i ffurfio math newydd o ddigwyddiad diwylliannol gyda’r gynulleidfa yn cael ei gwahodd i ddilyn stori mewn amser go iawn dros gyfnod o wythnos.

Un o bartneriaid y project yw Lles@Merthyr (Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful),gyda chynghorwyr y fwrdeistref sirol a grwpiau cymunedol a phreswylwyr yn gweithio yn agos- gan gynnwys helpu datblygu stori GALWAD a bod yn rhan o’r stori ei hun.

Cychwynnodd GALWAD ddydd Llun gyda storm drydanol dros Fae Abertawe a merch 16-oed o Ferthyr Tudful, Efa yn dod wyneb yn wyneb gyda’i dyfodol - hi ei hun, yn 42 oed yn 2052.

Ar yr un pryd, mae digwyddiadau rhyfedd yn digwydd ar draws Cymru ac mae GALWAD yn dilyn y straeon yn ystod yr wythnos.

Mae GALWAD yn cael ei gynhyrchu gan Collective Cymru, partneriaeth o ar draws Cymru a arweinir gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Ysbrydolwyd y project gan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, sy’n ‘rhoi hawliau cenedlaethau’r dyfodol yn greiddiol i gynllunio a pholisi cyhoeddus’.

Yn cael ei arwain gan Claire Doherty, gweithiodd GALWAD gyda Alex McDowell, cynllunydd cynhyrchu'r ffilm ffuglen-wyddonol Minority Report, ac roedd y tîm a phartneriaid cymunedol wedi gweithio gyda 120 ar draws Cymru wrth ddychmygu'r byd yn 2052, gan ddefnyddio arbenigwyr ar ecoleg, peirianneg, technoleg ddigidol, gwleidyddiaeth a dyfodoleg.

Gallwch ddilyn GALWAD trwy’r wythnos (Medi 26- Hydref 2) trwy ddilyn @GALWAD22 ar gyfryngau cymdeithasol – www.galwad.cymru Bydd y stori yn ffocysu ar Ferthyr Tudful ddydd Mercher a dydd Iau yma.

Neu ddydd Sul Hydref 2 gallwch wylio'r holl stori pan fydd Sky Arts yn darlledu dros bedair awr, gyda diwedd byw 90 munud yn dod yn fyw o Flaenau Ffestiniog gyda phennod olaf y stori yn ddrama 60 munud wedi ei gosod yn 2052.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni