Ar-lein, Mae'n arbed amser

Canlyniadau TGAU 2019

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 22 Awst 2019
MerthyrExamResultsGeneric.jpg

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin O’Neill: “Roedd yn brofiad hyfryd bod yn yr ysgolion y bore yma ac yn hyfryd gweld y bobl ifanc mor hapus. Hoffwn longyfarch a rhoi diolch i bawb a helpodd y bobl ifanc i gyflawni eu nodau."

Dywedodd Lisa Mytton, Aelod Cabinet dros Ddysgu: “Hoffwn longyfarch yr holl bobl ifanc o’r Fwrdeistref Sirol sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Fe rhiant, gwn pa heriau yr ydym ni a’n plant yn eu hwynebu wrth baratoi ar gyfer yr arholiadau ac ymgymryd â nhw ac felly hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ein hysgolion uwchradd; eu gwaith caled nhw a’u hymdrech barhaus am welliant a arweiniodd at y canlyniadau a welwyd heddiw. Rydym yn parhau i osod gwerth uchel ar ein partneriaeth â’r holl ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol a’u hannog i rannu arfer gorau fel bod holl ddisgyblion Merthyr Tudful yn cael y profiad o addysg wych, sy’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gweithio, addysg bellach a hyfforddiant.”

Dywedodd Sue Walker, Prif Swyddog Addysg: “Mae’n braf nodi fod y gyfradd llwyddo ledled y fwrdeistref sirol wedi codi a bod % o ddisgyblion sy’n cael A*-A hefyd wedi cynyddu. Roedd yn hyfryd gweld gwên ar wynebau’r bobl ifanc bore ‘ma a chlywed am eu holl gyflawniadau. Da iawn bawb!” 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni