Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diwrnod Canlyniadau TGAU 2023
- Categorïau : Press Release
- 24 Awst 2023

Daeth cannoedd o bobl ifanc a’u teuluoedd, ledled Merthyr ynghyd yn eiddgar i’w hysgolion y bore yma er mwyn derbyn eu canlyniadau TGAU hir ddisgwyliedig.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor a fu’n ymweld ag ysgolion y bore yma: "Roedd yn fraint cael ymweld ag ysgolion y bore yma a rhannu cyffro a disgwyliadau’r myfyrwyr a’u teuluoedd. Rwy’n dymuno pob dymuniad da iddynt ar eu camau nesaf, pa bynnag gyfeiriad y maent yn ei ddewis.”
Dywedodd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg: “Hoffwn longyfarch ein myfyrwyr ifanc am eu gwydnwch, eu cryfder a’u penderfynoldeb a arweiniodd at dderbyn eu canlyniadau heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb am fod yn rhan mor allweddol o gefnogi’n pobl ifanc ar eu taith, gan eu harwain ar eu llwybrau unigryw i gyflawni eu hamcanion a’u dyheadau yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Michelle Jones, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Addysg: “Hoffwn longyfarch pobl ifanc Merthyr Tudful sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw. Roedd yn wych cael rhannu eu cyffro’r bore yma wrth i mi ymweld â’n hysgolion. Beth bynnag oedd y canlyniad, dylech fod yn falch o’ch gwaith caled a’ch ymdrech ar eich taith addysgol mor belled. Da iawn bawb.”