Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgol Gynradd Gellifaelog yn ymarfer gyda Joe Wicks yn y Big School Workout Cenedlaethol

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Meh 2026
Gellifaelog Primary & The Big School Workout (2)

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (11-17 Mai) cymerodd Ysgol Gynradd Gellifaelog ran mewn digwyddiad o'r enw The Big School Workout, a gynhaliwyd gan Picture News mewn partneriaeth â Joe Wicks, The Body Coach.

Roedd cwmni o Dde Cymru - Confident, Healthy, Active Me CIC yn rhan o'r digwyddiad a chynhaliwyd cystadleuaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i ysgol yn Ne Cymru gysylltu'n ddigidol a bod yn rhan o ddarllediad byw. Enwebwyd Ysgol Gynradd Gellifaelog ac yn roedd yr ysgol yn ddigon ffodus i fod yn fuddugol.

Roedd y disgyblion a'r staff yn falch iawn o glywed eu bod wedi ennill y gystadleuaeth ac yn disgwyl yn eiddgar i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer corff dan arweiniad model rôl mor ysbrydoledig â Joe Wicks. Roedd yn ddigwyddiad gwych a oedd hefyd yn rhannu neges bwysig.

Dywedodd Miss Griffiths, a fu'n rhan o drefnu'r digwyddiad: "Mae lles wrth wraidd ein cwricwlwm, ac rydym yn addysgu disgyblion yn rheolaidd ynghylch y cysylltiad rhwng ymarfer corff ac iechyd meddwl. Rydym yn darparu cymaint o gyfleoedd â phosibl i ddisgyblion ledled yr ysgol fod yn heini ac egnïol. Roedd y Big School Workout yn enghraifft wych o hynny, ac roedd y disgyblion yn gyffrous i fod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr!"

Dywedodd y Pennaeth, Mr James Voros: "Roeddem wrth ein bodd bod Ysgol Gynradd Gellifaelog wedi cael ei dewis i fod yn rhan o The Big School Workout. Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle gwych i'n disgyblion weld y cysylltiad cadarnhaol rhwng ymarfer corff ac iechyd meddwl ar waith. Roedd y plant mor gyffrous i gymryd rhan ochr yn ochr â Joe Wicks ac i gynrychioli ein hysgol mewn digwyddiad unigryw, ledled y DU."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni