Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mynnwch Hyder Cosmetig
- Categorïau : Press Release
- 12 Tach 2025
Mae Safonau Masnach Cymru yn cyhoeddi rhybudd cryf i ddefnyddwyr am y bygythiad cynyddol a achosir gan gynhyrchion cosmetig anghyfreithlon a ffug sy’n cael eu gwerthu yn siopau'r stryd fawr ac ar-lein. Mae'r cynhyrchion hyn yn aml yn cael eu marchnata fel atebion harddwch gradd uchel neu broffesiynol, ond gallant gynnwys sylweddau gwenwynig ac sydd wedi'u gwahardd sy'n peri risgiau iechyd difrifol.
Canfuwyd bod colur ffug neu ddiawdurdod sydd wedi'i fewnforio o dramor neu sydd wedi'i brynu o farchnadoedd ar-lein yn cynnwys arsenig, plwm, mercwri, a hyd yn oed gwastraff anifeiliaid, a all achosi llid difrifol ar y croen, heintiau, llosgiadau cemegol, a chymhlethdodau iechyd tymor hir i ddefnyddwyr. Mae enghreifftiau o bryderon diweddar yn cynnwys:
- Mae hufenau goleuo croen anghyfreithlon yn aml yn cynnwys hydrocwinon, mercwri, a corticosteroidau, a all arwain at ddifrod i'r croen, cymhlethdodau beichiogrwydd, a hyd yn oed osteoporosis.
- Mae citiau gwynnu dannedd a werthir ar-lein wedi cael eu hatafaelu â lefelau hydrogen perocsid hyd at 300 gwaith y terfyn cyfreithiol, gyda’r risg o losgiadau a difrod parhaol i'r deintgig.
- Mae systemau ewinedd gel UV sy'n cael eu marchnata i'w defnyddio gartref yn cynnwys acryladau a all sbarduno adweithiau alergaidd a niwed parhaol i'r croen.
- Mae pecynnau trin a lliwio blew amrannau "yn y cartref" wedi dod yn boblogaidd, ond maent yn dod gyda risgiau difrifol. Dim ond gweithwyr salon proffesiynol ddylai ddefnyddio'r cynhyrchion hyn, ac ni ddylid eu defnyddio gartref
- Mae chwistrellau lliw haul trwynol, neu gyweiriwr crwyn trwynol, yn addo lliw haul dros y corff i gyd heb amlygiad haul. Fodd bynnag, nid ydynt wedi'u rheoleiddio, gallant fod yn anniogel, ac maent yn cynnwys sylweddau a allai fod yn beryglus fel Melanotan 2
Gan dynnu sylw at y risgiau hyn, mae ymchwiliadau diweddar gan sawl Tîm Safonau Masnach ledled Cymru wedi arwain at fanwerthwyr yn cael eu herlyn am werthu cynhyrchion nad ydynt yn addas i'w gwerthu ym marchnad y DU.
Yn 2024, erlynodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir manwerthwr yng Nghaerdydd a oedd yn gwerthu cynhyrchion cosmetig o'i safle yng Nghaerdydd, nad oeddent wedi'u bwriadu ar gyfer marchnad y DU, ac a fethodd â chydymffurfio â chyfraith diogelwch cynnyrch. I ddechrau, ymwelodd swyddogion â'r safle a rhoi cyngor manwl ar yr hyn yr oedd angen ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith a masnachu'n ddiogel.
Serch hynny, anwybyddwyd y cyngor ac roedd llinellau cynnyrch nad oeddent yn cydymffurfio yn parhau i gael eu stocio. Atafaelodd swyddogion nifer o gynhyrchion a oedd yn cynnwys hydrocwinon - sylwedd sydd wedi'i wahardd mewn cynhyrchion cosmetig. Ymhlith y cynhyrchion eraill oedd ar werth oedd cynhyrchion meddyginiaethol y gellir ond eu gwerthu neu eu cyflenwi i'r cyhoedd yn gyfreithiol drwy safle fferyllfa cofrestredig neu gan/o dan oruchwyliaeth fferyllydd. Yn ogystal, nid oedd gan rai llinellau cynnyrch unrhyw restr labelu na chynhwysion ar y pecyn. Yn yr achos hwn, plediodd y perchennog yn euog i'r troseddau.
Dyma'r cyntaf o gyfres o achosion yn ymwneud â cholur y mae Awdurdodau Safon Masnach Cymru yn eu dwyn gerbron y llys.
Yn dilyn ymgyrchoedd diweddar y Sefydliad Safonau Hyfforddiant Siartredig (CTSI) #CostofBeauty #PrisHarddwch a materion diweddar a nodwyd yng Nghymru, hoffai Safonau Masnach Cymru atgoffa defnyddwyr o'r cyngor canlynol wrth brynu colur:
- Prynu cosmetigau gan gyflenwyr ag enw da yn unig.
- Osgoi cynhyrchion wedi'u labelu “at ddefnydd proffesiynol yn unig” oni bai eu bod yn cael eu rhoi gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig.
- Gall cynhyrchion a brynir o farchnadoedd ar-lein fod yn ffug neu wedi'u halogi. Osgowch gynhyrchion heb gymeradwyaeth reoleiddiol.
- Rhoi gwybod am gynhyrchion anniogel neu amheus i'ch tîm Safonau Masnach lleol
Hoffai TSW hefyd atgoffa defnyddwyr bod rhai triniaethau harddwch cosmetig - megis tatŵ, colur lled-barhaol, tyllu'r corff, aciwbigo, ac electrolysis - bellach yn cael eu rheoleiddio o dan y Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig, a gyflwynwyd yng Nghymru ar 29 Tachwedd 2024.
Mae'r cynllun hwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn bodloni safonau hylendid a rheoli heintiau llym, gan leihau'r risg o niwed. Yng Nghymru, rhaid i unrhyw un sy'n cynnig y gwasanaethau hyn gynnal Trwydded Gweithdrefn Arbennig a gweithredu o safle neu gerbyd cymeradwy.
Byddai Safonau Masnach Cymru yn cynghori defnyddwyr cyn archebu triniaeth i:
- Wirio bod yr ymarferydd wedi'i drwyddedu o dan y cynllun newydd gan ddefnyddio'r Gofrestr Gyhoeddus o Weithdrefnau Arbennig Cymru,
- Gwirio bod gan y safle neu'r uned symudol dystysgrif cymeradwyaeth.
- Osgoi gweithredwyr didrwydded, oherwydd efallai na fyddant yn bodloni safonau diogelwch hanfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig, cysylltwch â'ch Timau Trwyddedu neu Iechyd yr Amgylchedd lleol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.safonaumasnach.llyw.cymru/cym/tswweek