Ar-lein, Mae'n arbed amser

Byddwch yn barod i ddathlu diwylliant Cymraeg yn nigwyddiad Diwrnod Shwmae Su’mae, Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Medi 2023
Shwmae Day 23

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch i gyhoeddi dychweliad blynyddol Diwrnod Shwmae Su’mae, Ddydd Sadwrn, 14 Hydref 2023, rhwng 10am a 4pm ym mharc godidog Cyfarthfa.  

Mae’r digwyddiad bywiog sydd yn cael ei gynnal ar y cyd gan yr Awdurdod Lleol a phartneriaid yr Iaith Gymraeg, yn lleol wedi bod yn esblygu ers Hydref 2019. Ei fwriad yw sbarduno angerdd tuag at yr Iaith Gymraeg ac ysbrydoli ac annog pawb i ddefnyddio cyfarchion sylfaenol fel "shwmae," "bore da," a "sut wyt ti."

Bydd Dysgu Cymraeg Morgannwg  wrth law i gynnig cyngor, gwybodaeth a gweithgareddau ymgysylltiol ar gyfer oedolion sydd am ddechrau ar eu taith i ddysgu’r Gymraeg. Bydd Undeb Rygbi Cymru’n rhannu’r modd y maent yn integreiddio ac yn dathlu’r Gymraeg yn y sefydliad.  .

Bydd myfyrwyr talentog Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, Rhyd y Grug, Ysgol y Graig, Troed y Rhiw a Chaedraw yn ymuno i arddangos brwdfrydedd yr ifanc i’r Iaith Gymraeg. Gwyliwch Erin Edwards, merch ifanc, dalentog o Drelewis yn cyfareddu’r gynulleidfa â’i pherfformiadau cerddorol, Cymreig.

Gall y plant fwynhau peintio wyneb a modelu balwniau a bydd "Do Re Mi Canu" yn eu cadw’n hapus. Mae Dysgu i Oedolion Cymru yn eich gwahodd i greu crefftau a llieniau bwrdd, Cymreig.

Mwynhewch nifer o gynnyrch a fydd ar werth. O anrhegion unigryw, cardiau cyfarch Cymraeg, llyfrau, cacennau blasus a chanhwyllau cwyr. Maent yn cael eu gwerthu gan gwmniau sydd yn angerddol am yr Iaith Gymraeg, boed yn ddysgwyr neu’n ymgysylltu’n barod â’r iaith. 

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Eiriolydd yr Iaith Gymraeg:

"Mae’n ddigwyddiad hanfodol yn y calendr sydd yn hybu ac yn codi ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r Gymraeg, ledled y fwrdeistref.

Rwy’n hynod falch o’r dathliad ac rwy’n ddiolchgar iawn am waith caled ein partneriaid allweddol a’n cefnogwyr sydd yn sicrhau llwyddiant y digwyddiad.

Gobeithiaf weld nifer o breswylwyr, o bob oed yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Shwmae gyda ni. Bydd yn gyfle iddynt ganfod pŵêr dwyieithrwydd a manteision dysgu ac ymgysylltu â’r Iaith Gymraeg.”


Peidiwch â cholli’r dathliad hynod hwn o’n diwylliant a’n hiaith. Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau er mwyn gwneud hwn yn ddiwrnod i’w gofio.

Rhagor o wybodaeth: shwmaeronment@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni