Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trigolion Glynmil yn dathlu Mis Hanes Teithwyr Sipsiwn Roma mewn steil
- Categorïau : Press Release
- 19 Gor 2023

Roedd Safle Sipsiwn-Teithwyr Glynmil yn llawn bywyd gyda sŵn trigolion, plant ysgol lleol, partneriaid, a gwirfoddolwyr i gyd yn dathlu Mis Hanes Teithwyr Sipsiwn Roma ym mis Mehefin.
Llanwyd y lawntiau a'r ganolfan gymunedol gydag aelodau o 20 o sefydliadau partner yn darparu gweithgareddau crefft a gweithgareddau eraill mewn digwyddiad blynyddol a gydlynwyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ac a gynrychiolwyd gan y Maer y Cynghorydd Malcolm Colbran.
“Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd gydag Wythnos Gwaith Ieuenctid, ac roeddem wrth ein bodd bod Clwb Bechgyn a Merched Georgetown a Hyb Cymunedol Twyn yno i gynnig amrywiaeth o chwaraeon ar y lawntiau,” meddai Rheolwr Safle Glynmil Lillie Bramley.
“Trefnodd Sefydliad Dinas Caerdydd weithgareddau pêl-droed hefyd, a daeth Heddlu De Cymru ynghyd â chŵn gwaith yr heddlu i rannu rhai ffeithiau diddorol am yr anifeiliaid anhygoel hyn.”
Treuliodd disgyblion a staff o Ysgol Gynradd Abercanaid a grŵp anabledd Megastars Hyb Cymunedol Twyn y diwrnod yn dysgu am y diwylliannau unigryw, gyda thrigolion yn rhannu straeon tra’n defnyddio’r gwahanol wasanaethau sydd ar gael yn lleol.
Roedd y sefydliad celfyddydau cymunedol Celf ar y Blaen – sydd wedi bod yn gweithio ar safle Glynmil ers dros wyth mlynedd – wedi addurno’r neuadd ochr yn ochr â phlant preswyl, ac yna’n cynnig crefftau ar y diwrnod. Trefnodd Masquerade Arts dimau i beintio wynebau, gwneud hetiau balŵn, a chyflwyno gweithdai sgiliau syrcas.
Daeth tîm o Amgueddfa Castell Cyfarthfa â hanes Teithwyr Sipsiwn Roma lleol yn fyw gyda gwisg hanesyddol a sgyrsiau dadlennol.
“Teimlwyd yr awyrgylch gwych ar draws y safle, gyda cherddoriaeth werin yn chwarae ar lawntiau Caffi Celtaidd Merthyr Tudful, a choginio awyr agored a chrefft lledr dan arweiniad SmallWoods, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer perchnogion coetiroedd,” ychwanegodd Lillie.
“Diolch yn arbennig i dîm Cydlyniant y Cyngor am gynnig cefnogaeth digwyddiadau a chyllid ar gyfer y diwrnod, yn ogystal â chronfa Fit and Fed Cymdeithas Tai Merthyr Tudful, a ddarparodd luniaeth a byrbrydau iach drwy gydol y digwyddiad.
“Roedd y digwyddiad wedi rhedeg yn esmwyth diolch i wirfoddolwyr a gwasanaethau partner lleol a gynigiodd eu hamser a’u creadigrwydd yn hael i’n cefnogi. Edrychwn ymlaen at drefnu digwyddiad mwy fyth y flwyddyn nesaf yng nghanol y dref!”