Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tîm Astro ar y blaen! Caedraw yn fuddugol yn rownd Derfynol Genedlaethol F1

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Ion 2023
F1

Teithiodd tîm bychan ond cryf o Ysgol Gynradd Caedraw i Birmingham i gystadlu yn rownd Derfynol Genedlaethol F1 mewn Ysgolion.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn y NEC, yn y Sioe Foduron ble mae Fformiwla 1 mewn Ysgolion yn noddi cystadleuaeth STEM ble mae plant yn cael eu herio i gynllunio ac adeiladu a rasio car model Fformiwla 1 ac sy'n cael ei bweru gan nwy.

Mae Ysgol Gynradd Caedraw yn falch o’i hanes yn y gystadleuaeth, ac yn enillwyr blaenorol dan arweiniad llwyddiannus Miss Jodi Stokes a Mr Scott Beale.

‘Tîm Astro oedd Joshua Pike, Korey Mason, Alfie Williams a Jake Williams a ddewiswyd i gynrychioli’r Ysgol yn dilyn project Blwyddyn 6 yn haf 2022. Mae’r project yn cwmpasu'r Cwricwlwm i Gymru, sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion gael profiadau dysgu gwirioneddol, cydweithio gyda’r gymuned a gwell dealltwriaeth o fyd gwaith.

Ond, oherwydd newidiadau i’r amserlen gan y trefnwyr, roedd y bechgyn bellach wedi symud i Ysgol Uwchradd Cyfarthfa cyn y Gystadleuaeth Ranbarthol. Dychwelodd y tîm i Gaedraw i gystadlu gan ddod yn ail yn y rownd Ranbarthol gan guro 24 tîm arall. Roedd hyn yn golygu eu bod wedi hawlio eu lle yn y Rownd Genedlaethol yn Birmingham.

Dwedodd y Pennaeth, Dawn Williams:
“Dewiswyd 26 tîm gorau'r DU i gystadlu yn y rownd derfynol. Yn ystod y dydd, holwyd y Tîm gan dri grŵp o feirniaid am y gwaith a gwblhawyd ac yna rasio eu car.

“Wrth i’r car gael ei baratoi i rasio fe holwyd y plant yn fyw ar You Tube ac yna roedd popeth lawr i Alfie, y gyrrwr i fod yn bwyllog a chael y gorau o’i gar. Er yn nerfus, perfformiodd Alfie yn wych gan ymateb yn gyflym tu hwnt ar fotwm rasio'r car.

“Y cyhoeddiad cyntaf oedd y car cyflymaf, a enillwyd gan Dîm Astro. Enillwyd y wobr am yr arddangosfa orau gan y bechgyn hefyd! Roeddent hefyd yn y tri uchaf am eu cyflwyniad a gwaith peirianneg.

“Y wobr olaf oedd y canlyniad podiwm cyffredinol, ac roedd paw bar bigau’r drain. Cyhoeddwyd y trydydd a’r ail safle ac yna cyhoeddwyd Tîm Astro fel y Pencampwyr!

“Roeddem wrth ein bodd. Roedden nhw wedi ennill! Roedd yr holl ymdrech a gwaith caled wedi talu ffordd.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni