Ar-lein, Mae'n arbed amser

Glanhau Lôn Goitre yn llwyddiant ysgubol

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 28 Hyd 2021
Goitre lane finish (1)

Yr wythnos ddiwethaf, treuliwyd chwe chan awr, trwy gydol yr wythnos yn glanhau ardal Lôn Goitre yn sgil y llanast a adawyd gan dipwyr anghyfreithlon.

Bu gwirfoddolwr o Brosiect Dynion y Gurnos yn cynorthwyo 25 aelod o staff y Cyngor o Adrannau’r Gwasanaethau Cymdogol, Glanhau Strydoedd, Cynnal a Chadw Safleoedd a’r Tîm Coed i lanhau’r ardal.

Darparwyd sgipiau gan Tai Merthyr Valley er mwyn mynd â’r gwastraff oddi yno a chyflwynwyd llythyron i’w preswylwyr yn eu hysbysu o’r glanhau ac yn gofyn iddynt am eu cefnogaeth gan rybuddio y gallai unrhyw un sydd yn cael eu dal yn tipio’n anghyfreithlon gael eu herlyn. Defnyddiwyd 4 sgip mawr ac aethpwyd â 7 llond lori o ddeunyddiau i’w hailgylchu oddi yno a oedd yn cynnwys  253 bag o ddeunyddiau i safle Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartref y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Lee Davies: “Mae Lôn Goitre wedi bod yn flaenoriaeth ers amser. Mae’n le braf i breswylwyr gerdded ac mae gweld cymaint o dipio anghyfreithlon yn y lôn wedi bod yn beth trist, yn enwedig gan ei fod yn llwybr i’r ysgol i blant.

“Hoffai Cynghorwyr Ward Gurnos ddiolch i holl staff y Cyngor, i staff Tai Merthyr Valleys Homes ac i wirfoddolwyr Prosiect Dynion y Gurnos am eu gwaith caled yn glanhau’r tipio anghyfreithlon. Rydym am sefydlu grŵp cymunedol Cyfeillion Lôn Goitre a fydd yn cydweithio â ni er mwyn cynnal y lôn a gwneud gwelliannau.” 

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol:  “Roedd hon yn dasg enfawr a hoffwn longyfarch fy nghydweithwyr Ward a phawb a fu’n rhan o hyn. Mae’r lluniau cyn ac ar ôl yn adrodd y cyfan ac mae’ch ymdrechion wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ardal. Diolch.”

Roedd preswylwyr yn hapus iawn â’r canlyniadau ac yn awyddus i ddiolch i’r staff ac i’r gwirfoddolwyr. Y gobaith yw y bydd pawb yn ceisio sicrhau y bydd yr ardal yn cael ei chadw’n lân o hyn ymlaen.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni