Ar-lein, Mae'n arbed amser
Grantiau o hyd at £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau addysgiadol, amgylcheddol neu hamdden lleol
- Categorïau : Press Release
- 02 Awst 2022

Gall grwpiau cymunedol ym Merthyr Tudful wneud cais am hyd at £5,000 o gronfa arian lleol sydd wedi dyfarnu dros £8 miliwn o bunnoedd i amrywiaeth o grwpiau ac achosion dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
Mae Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-Fran yn cyfrannu £1 am bob tunnell o lo a werthir trwy gynllun adfer tir Ffos-y-Fran.
Mae’r Cynllun Grant Canolradd sydd yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw (2 Awst 2022,) yn cynnig grantiau ar gyfer prosiectau sydd yn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau newydd gan gyfrannu i wneud Merthyr Tudful yn “lle bywiog, deniadol, diogel a chynaliadwy.”
Mae’n rhaid i’r prosiectau fod wedi’u lleoli yn y fwrdeistref sirol gan gynnig budd addysgol, amgylcheddol neu hamdden. Mae’r grantiau ar gyfer costau refeniw/cyfalaf ac mae arian cyfatebol yn ofynnol, naill ai drwy gyfraniadau ariannol neu fath arall. Mae cynlluniau sydd yn canolbwyntio ar iechyd cadarnhaol a deilliannau corfforol yn cael eu hannog ond croesawir ceisiadau gan bawb.
Mae sefydliadau sydd wedi derbyn Grant Canolradd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Cylch Meithrin Pentre Bach, Ysgol Santes Tudful, Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, Ysgol y Graig ac Eglwys y Bedyddwyr yn y Tabernacl.
Cafodd Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-Fran ei sefydlu gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a hynny ar y cyd â chwmni glofaol lleol, Merthyr (South Wales) Limited.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 19 Awst am 4pm. Am ragor o wybodaeth neu am ffurflen gais, cysylltwch â Chydlynydd Cronfa Buddiannau Ffos-y-Fran ar 07563 398667 neu ffosyfran@merthyr.gov.uk