Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cefnogaeth wych i ddiwrnod agored y lloches nos

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Rhag 2019
Night shelter open day

Mae trefnwyr diwrnod agored i recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i redeg lloches nos y gaeaf Merthyr Tudful wrth eu boddau â’r ymateb.

Daeth mwy na 30 o bobl i’r digwyddiad, a oedd yn cael ei redeg ar y cyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a gwirfoddolwyr hir dymor sydd wedi helpu i redeg y lloches dros y naw blynedd ddiwethaf.

Roedd y canlynol yn bresennol yn y sesiwn galw heibio – swyddogion tai, cydlynwyr gwirfoddoli, swyddogion cefnogi a staff hyfforddi, yn ogystal â gwirfoddolwyr a phartneriaid gan gynnwys yr heddlu.

“Roeddem ni mor falch o gael gymaint o bobl yno i un ai gyflwyno eu henwau fel gwirfoddolwyr neu i ddod i wybod rhagor amdano,” dywedodd Rheolwr Tai a Chefnogi Pobl y Cyngor, Suzanne Lewis-Abbott.

“Roeddem yn gallu dangos gwagle’r lloches iddynt i gyd, esbonio gwaith ei redeg o ddydd i ddydd a’u hysbysu am y gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd ar gael.”

Caiff y lloches ei staffio gan wirfoddolwyr ac aelodau sefydliadau ffydd ac mae ei ddyddiad dechrau i raddau helaeth yn cael ei bennu gan yr anhawster o recriwtio gwirfoddolwyr dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Bydd lloches 2020 yn ailagor ddydd Gwener 3 Ionawr a bydd yn rhedeg tan ganol mis Mawrth.

Bob dydd bydd y lloches ar agor, bydd naw neu 10 o wirfoddolwyr yn ofynnol i weithio dros dair shifft: 6-10pm, 10pm-6am a 6-8am. Mae’r grŵp gwirfoddoli yn gweini bwyd twym wedi ei goginio ymlaen llaw a diodydd gyda’r nos a brecwastau drwy Gaffi’r Orsaf Fysiau, gyda chefnogaeth grant oddi wrth Dai Cymoedd Merthyr.

Mae Cymdeithas Tai Merthyr Tudful hefyd yn cefnogi’r prosiect drwy roi arian i brynu gwlâu gwersylla a gobenyddion newydd mawr eu hangen i’r rheini sy’n defnyddio’r lloches dros fisoedd y gaeaf.

Caiff mynediad ei ddarparu i bobl sy’n cysgu ar y stryd sydd wedi eu dynodi ac ar ôl trafodaeth gyda’r gwirfoddolwyr a Thîm Atebion Tai yr awdurdod. Caiff gwiriadau cefndir eu cyflawni i leddfu unrhyw risgiau i wirfoddolwyr a phreswylwyr eraill yn y lloches.

• Am wybodaeth bellach cysylltwch â thîm atebion tai y Cyngor ar 01865 725000, e-bost housing@merthyr.gov.uk

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni