Ar-lein, Mae'n arbed amser

Baneri Gwyrdd yn chwifio ar draws pedwar safle cyngor ledled Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Gor 2025
Green Flag Award logo FOR SCREEN

Mae'r nifer uchaf erioed o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru wedi cyrraedd y safonau uchel sy'n ofynnol i chwifio'r Faner Werdd.

Heddiw, datgelodd yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus y 315 o safleoedd sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd sydd o fri rhyngwladol.  

Y pedwar safle llwyddiannus sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor yn ein bwrdeistref sirol yw; Parc Cyfarthfa, Parc Trethomos, Parc Taf Bargoed a Mynwent Aberfan, ynghyd â 16 o fannau gwyrdd yn ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. 

Bydd y baneri yn hedfan i gydnabod eu hymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau ymwelwyr rhagorol, a chyfranogiad cymunedol. 

Dywedodd y Cynghorydd David Jones, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Chymunedau;
"Mae ennill statws y Faner Werdd, am flwyddyn arall yn olynol, yn dangos y gwaith caled a'r ymdrech sy'n mynd i gynnal y parciau a'r mannau gwyrdd hardd hyn, gan y staff a'r gwirfoddolwyr gwych sy'n cymryd rhan. Dylent fod yn hynod falch ohonynt eu hunain.

"Fel Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Chymunedau, ar ran y Cyngor cyfan, rwyf am drosglwyddo ein diolchgarwch a'n llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan o hyn.

"Byddwn yn annog yr holl drigolion, a'r rhai sy'n ymweld â'n bwrdeistref sirol yr haf hwn, i ystyried treulio amser yn ein mannau gwyrdd arobryn a gwneud y gorau o'r mannau natur hardd hyn."

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd wedi'u rheoli'n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus:
 "Rydym wrth ein bodd i weld 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws mawreddog y Faner Werdd, sy'n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.

"Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael eu cydnabod ymhlith y goreuon yn y byd yn gyflawniad enfawr - Llongyfarchiadau!"

Mae rhestr lawn o enillwyr y Gwobrau Cymunedol i'w gweld isod, gyda llongyfarchidau arbennig yn mynd i Barc Heolgerrig fel yr enillydd mwyaf newydd ym Merthyr Tudful.

  • Gwarchodfa Natur Cilsanws
  • Gerddi Canolfan Gymunedol Dowlais
  • Gardd Natur Dowlais 
  • Gardd Natur Edward a Trevor
  • Gardd Gymunedol Bythynnod yr Hafod 
  • Gardd Natur Gymunedol yr Hafod
  • Parc Heolgerrig
  • Gardd Gwenyn Naturiaethwyr Merthyr
  • Gardd Stryd y Farchnad 
  • Gardd Natur Gymunedol Muriel & Blanche 
  • Parc Nant Llwynog
  • Parc Penydarren 
  • Pwll Penywern 
  • Pentref a Pharc Pontsticill 
  • Hwb Cymunedol Twynyrodyn 
  • Gwobr Gymunedol Woodland Walk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni