Ar-lein, Mae'n arbed amser
Golau Gwyrdd i Welliannau Teithio Llesol
- Categorïau : Press Release
- 09 Tach 2021

Fel rhan o’i raglen Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor ar fin dechrau gwaith ar gyfres o brosiectau i wella’r amodau ar gyfer cerdded a seiclo.
Ddydd Llun 15 Tachwedd, bydd gwaith yn cychwyn ar:
• uwchraddio’r man croesi presennol ar Stryd Fictoria i groesfan sebra - bydd hyn yn cymryd tan y Nadolig i’w gwblhau;
• llwybr a rennir gan gerddwyr a seiclwyr ac yn rhedeg ochr yn ochr â Stryd Bethesda - bydd hyn yn cymryd tan 31 Mawrth 2022;
• llwybr a rennir gan gerddwyr a seiclwyr ac yn rhedeg ochr yn ochr ag Avenue de Clichy o gylchfan Caedraw hyd at y system gylchu (31 Mawrth).
Bydd gwaith yn cychwyn ar y canlynol ym mis Ionawr 2022:
• gwelliannau i gylchfan Tesco fel bod croesi’r ffordd yn fwy diogel i gerddwyr - bydd hyn yn cymryd tan ganol mis Chwefror.
Ganol mis Chwefror, byddwn yn:
• cyflwyno man croesi â signal ar y Stryd Fawr Isaf rhwng y maes parcio a’r siopau (tan 31 Mawrth).
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Masnacheiddio: “Mae’n wych ein bod wedi cael cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni’r gwelliannau hyn i gerddwyr a seiclwyr yng nghanol y dref. Felly, byddwch yn amyneddgar â ni tra bo’r gwaith yn parhau.”
Mae croeso ichi e-bostio unrhyw sylwadau at active.travel@merthyr.gov.uk