Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dirwy o £12,000 i Gurnos Kebab House am safonau hylendid bwyd gwael

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Ion 2026
Gurnos Kebab House prosecution Jan 2026

Plediodd Unal Cetin, Cyfarwyddwr cwmni Gurnos Pizza Grill Cyf, yn euog o naw tramgwydd yn ymwneud â hylendid bwyd yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar yr 21ain o Ionawr 2026. Roedd y naw toriad cyfraith yn ymwneud â Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, yn cynnwys rheolaeth wael o beryglon croes-halogi, sy’n gallu arwain at wenwyn bwyd.

Cynhaliodd Swyddogion Iechyd Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful archwiliad hylendid bwyd dirybudd o’r busnes yn Ionawr 2025, lle darganfuwyd safonau hylendid bwyd gwael. Roedd y dull o reoli croes-halogi yn annigonol, nid oedd y staff wedi eu hyfforddi mewn hylendid bwyd, ac nid oedd dulliau rheoli diogelwch bwyd sylfaenol ar waith yn unol â’r gyfraith. Fel canlyniad derbyniodd y busnes Sgôr Hylendid Bwyd o 1. Dychwelodd swyddogion i’r busnes bythefnos yn ddiweddarach ond bu dirywiad yn y safonau gyda thystiolaeth bellach o ddiffyg rheolaeth croes-halogi; un o brif achosion gwenwyn bwyd yn y Deyrnas Unedig.

Mae’n hanfodol bod gan fusnesau bwyd ddulliau ar waith sy’n gwarchod iechyd eu cwsmeriaid. Rhoddwyd cosb ariannol o £12,000 gan y Llys o ganlyniad i ddifrifoldeb y troseddau.

Meddai’r Cynghorydd Declan Sammon, yr Aelod Cabinet ar gyfer Trawsnewid, Llywodraethu a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Mae gan fusnesau bwyd ddyletswydd gyfreithiol glir i sicrhau bod y bwyd maent yn ei werthu’n ddiogel. Yn yr achos hwn, sylwodd swyddogion ar fethiannau difrifol mewn arferion hylendid bwyd sylfaenol a oedd yn peri risg i iechyd cyhoeddus. Adlewyrcha’r ddirwy sylweddol a osodwyd gan y Llys, ddifrifoldeb y tramgwydd ac mae’n ymddwyn fel rhybudd i bob un busnes na fyddwn yn caniatáu safonau hylendid bwyd gwael.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni