Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dweud eich dweud ar sut i wella teithio llesol
- Categorïau : Press Release
- 16 Medi 2021

Efallai y byddwch yn cofio i ni ofyn am eich safbwyntiau yn gynharach eleni ar sut i wella’r ddarpariaeth seiclo a cherdded ym Merthyr Tudful.
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn llwyddiannus a chyfranogodd dros 1,000 o bobl. Mae’ch sylwadau wedi cael eu hadolygu ac wedi’n cynorthwyo i gynhyrchu’n Map Rhwydwaith Teithio Llesol a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo ar ddiwedd y flwyddyn.
Cyn i ni wneud hynny, rydym yn gofyn am eich adborth ar y map drafft.
Ar y wefan hon, gallwch weld ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol arfaethedig ar gyfer pob ward yn y fwrdeistref sirol ac mae cyfle hefyd i chi ateb arolwg byr.
Mae’r ymgynghoriad yn fyw am 12 wythnos (Medi 13-Rhagfyr 6) a gellir cael mynediad iddo yma: https://merthyrtydfil2.commonplace.is/cy-GB