Ar-lein, Mae'n arbed amser

Siop finyl heavy metal yw’r diweddaraf yng nghynllun ‘Yn y Cyfamser’ Merthyr

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Medi 2020
Heavy Metal Merthyr

Mae ffan heavy metal o Ferthyr Tudful yn gwneud y gorau o’r diddordeb newydd yn y genre ac mewn recordiau finyl drwy agor y siop finyl gyntaf yn y dref ers blynyddoedd.

Mae Heavy Metal Merthyr wedi agor i fyny’r grisiau yn y farchnad dan do yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful a hynny yn sgil cymorth gan gynllun ‘Yn y Cyfamser’ y Cyngor sy’n bartneriaeth er mwyn gwella ymddangosiad canol y dref gan roi defnydd newydd i eiddo gwag y dref.

Mae’r perchennog, Paul Bezant, 46, yn teimlo’n angerddol am finyl, cerddoriaeth heavy metal ‘a phob dim sy’n ymwneud â’r fordd honno o fyw a’r genre.’ Ac yntau wedi dysgu canu’r gitâr ei hun pan roedd yn iau, roedd Paul yn mynychu siop gerddoriaeth yn gyson yng nganol y dref a dyma oedd ei ysbrydoliaeth ar gyfer y siop newydd.

“Yr hyn sydd yn gwneud fy musnes yn unigryw yw’r ffaith fy mod yn canolbwyntio ar y math hwn o gerddoriaeth a phob dim sy’n ymwneud â hi,” dywedodd. “Bydd pobl yn dod am ddarn o’r ‘sin’ yn ogystal â’r hyn sydd ar werth. Rwy’n wybodus a byddaf yn cynorthwyo cwsmeriaid i ddysgu rhagor.

“Mae gwethiant finyl yn parhau i gynyddu a chafwyd 9.7 miliwn o werthiant y llynnedd, sy’n gynnydd o 12% a bu hyn yn gyson dros y dair mlynedd ddiwethaf. Byddaf yn sicrhau fod fy ymchwil yn y farchnad yn golygu y byddaf yn cynnig y finyl mwyaf poblogaidd.

“Gwelwyd cynnydd mawr yn y sector ac mewn amseroedd cyffredin mae artistiaid heavy metal yn amlwg yn Glastonbury ac mewn gigs yn Llundain ac yn ychwanegu at boblogrwydd finyl ac yn sbarduno pobl i ddatblygu eu sgiliau gitâr,” ychwanegodd Paul.

“Mae digwyddiadau lleol fel Merthyr Rising a bandiau sy’n perfformio mewn lleoliadau fel Castell a Pharc Cyfarthfa, Redhouse a’r New Crown yn enghreifftiau o’r diddordeb newydd mewn heavy metal a’r themâu sy’n gysylltiedig ag ef.”

Bydd y siop hefyd yn gwerthu gitarau gan gwmnïau poblogaidd fel Fender & Jackson (UDA) ac Ibanez o Siapan, seinchwyddwyr Blackstar, dillad a nwyddau eraill ac mae Paul hefyd am werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau a fydd yn cynnwys bandiau lleol.

Ychwanegodd Paul: “Wedi nifer o flynyddoedd yn yfed yn drwm, cefais drawsblaniad iau ac mae wedi newid fy mywyd. Dechreuais wirfoddoli â Drink Wise Age Well gan helpu eraill mewn sefyllfa debyg.

“Dyma oedd fy ysbrydoliaeth i ddechrau fy musnes fy hun a phrofi beth sydd wir yn bosib os ydych yn ddigon penderfynol.”

O dan gynllun Yn y Cyfamser, mae swyddogion datblygiad economaidd y Cyngor, Canolfan Fentergarwch Merthyr, Hyfforddiant Tudful, Busnes Cymru a pherchnogion eiddo wedi dod ynghyd er mwyn darparu cymorth yn paratoi cynlluniau busnes a chanfod llety byr dymor heb rent.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd:”Mae’n gwbl eglur fod recordiau finyl a heavy metal yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae angen i ganol trefi’r Cymoedd gynnig mwy o amrywiaeth ar gyfer siopwyr yn hytrach na bod pob Stryd Fawr yr un fath.

“Dyma’r 19ed busnes Yn y Cyfamser ym Merthyr Tudful ers i’r cynllun ddechrau bum mlynedd yn ôl. Mae’r fenter ddyfeisgar hon yn bosib o ganlyniad i waith caled ein tîm datblygu economaidd a’r partneriaid blaengar sy’n cynorthwyo canol ein tref i barhau i ddatblygu diwylliant o siopau annibynnol sy’n hybu economi fywiog ac amrywiol.

“Dyma’r ail siop Yn y Cyfamser yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful ac rydym yn ddiolchgar i’r tîm rheoli am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd.”

• os hoffech chi gymorth gan gynllun Yn y Cyfamser, cysylltwch â Chanolfan Fentergarwch Merthyr Tudful ar 01685 727509.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni