Ar-lein, Mae'n arbed amser
Helpwch i achub eich hoff enwau llefydd
- Categorïau : Press Release
- 21 Tach 2019
Caiff preswylwyr Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf eu hannog i ymuno â’r ymgyrch i ‘achub’ enwau llefydd Cymraeg.
Mae prosiect sy’n anelu at gynnal ‘arwyddocâd arbennig’ enwau traddodiadol yn gofyn i bobl gymryd rhan mewn arolwg i ddynodi’r llefydd sy’n fwyaf pwysig iddyn nhw, mewn ymgais i gadw eu hanes yn fyw.
“Mae enwau Cymraeg yn adrodd stori,” dywedodd Llŷr Evans, Cydlynydd Rhaglen Datblygu Gwledig. “Tua 480AD gwnaeth Tudful, merch y Brenin Brychan Brycheiniog gael ei merthyru yn ystod ymosodiad paganaidd. Galwyd y lle ble y’i lladdwyd yn Ferthyr Tudful yn y man, er anrhydedd iddi hi.”
Yn anffodus, mae enwau traddodiadol ar lefydd yn mynd ar goll. Mae’r Seisnigeiddio o ganlyniad anochel i ddiwydiannu a mewnfudo (caiff Hirwaun ei ynganu fel Herwin yn lleol, er enghraifft), yn un o’r rhesymau a ddyfynnir am hyn.
Caiff bygythiad newydd a mwy peryglus ei weld wrth i’r cyfryngau cymdeithasol dyfu a llwyfannau ar-lein sy’n tracio gweithgareddau awyr agored ychwanegu at y duedd.
“Mae enwau ar gyfer tracio llwybrau seiclo a rhedeg yn annhebygol o fod yn enwau gwreiddiol i’r ardal,” ychwanegodd Llŷr. “Ymhlith enghreifftiau mae Mynydd Gilfach yr Encil yn cael ei newid i Hang Gliders’ Hill a Chwm Callan yn newid i Copper Canyon. Ac am fod enwau llwybrau ar-lein yn barhaol ac wedi eu cofnodi, mae yna berygl y byddant yn cymryd lle’r enwau gwreiddiol.”
Mewn ymgais i fynd i’r afael â hyn, mae Gweithredu Gwledig Cwm Taf – Rhaglen Datblygu Gwledig ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf – wedi lansio prosiect Enwau Llefydd a Thirluniau Diwylliannol i ddynodi enwau a thirluniau sy’n cyfri i bobl.
“Mae’n debygol y bydd yna lawer o lefydd sydd ag arwyddocâd arbennig i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr – ble maen nhw’n byw, cael gwyliau, ymarfer corff neu ble maen nhw’n mynd i ddianc,” dywedodd Llŷr. “Hoffem i bobl ddweud wrthym am y llefydd hyn, yn benodol eu hanes a tharddiad eu henwau Cymraeg neu Saesneg.”
Rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r arolwg byr hwn: https://arcg.is/uW9Ka