Ar-lein, Mae'n arbed amser
Helpa ni i gadw ein plant yn ddiogel
- Categorïau : Press Release
- 13 Mai 2020
Oherwydd y cloi a achoswyd gan y Pandemig Coronavirus, mae miloedd o blant yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, yn aros gartref, ac yn anffodus nid dyna'r lle mwyaf diogel i rai bob amser. Mae grŵp cudd o blant a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso sy'n cael llawer llai o ryngweithio â gwasanaethau statudol.
Am y rheswm hwn mae Cadeiryddion Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn annog y cyhoedd i helpu ein plant i aros yn ddiogel yn ystod Pandemig Covid-19, trwy fod yn wyliadwrus ac edrych am unrhyw arwyddion y gallai plentyn fod yn profi camdriniaeth neu esgeulustod.
Os oes gan unrhyw un bryderon, peidiwch â throi'r ffordd arall. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i adrodd ac mae'n hawdd gwneud hynny. Cysylltwch â'ch Tîm Diogelu lleol ar un o'r rhifau isod:
- Rhondda Cynon Taf (Plant) - 01443 425006
- Merthyr Tudful - 01685 725000
- Pen-y-bont ar Ogwr (Plant) - 01656 642320
Oriau Agor:
- Dydd Llun - Dydd Iau: 8.30am - 5.00pm
- Dydd Gwener: 8.30am - 4.30pm
- Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc: Ar gau
Argyfyngau Allan o Oriau
I gysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa, ar benwythnosau a gwyliau banc, cysylltwch â Thîm Dyletswydd Brys Cwm Taf Morgannwg ar 01443 743665 (mae hyn yn cynnwys RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr).
Os ydych chi'n amau bod plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siaradwch â'r Heddlu.
Busnes pawb yw diogelu!