Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arddangosfa Treftadaeth a Murlun 70 troedfedd o uchder wedi'i ddadorchuddio yn Nhreharris
- Categorïau : Press Release
- 24 Tach 2024
Yn ddiweddar, dadorchuddiwyd murlun 70 troedfedd o uchder a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treharris. Mae’r murlun yn dathlu treftadaeth leol ac yn darlunio cymeriadau a straeon a enwebwyd yn y gymuned. Mae'r digwyddiad yn "ddiweddglo mawr" dathliadau canmlwyddiant y clwb.
Dros y 18 mis diwethaf, mae dathliadau'r canmlwyddiant wedi dod â'r gymuned ynghyd, drwy gyfres o ddigwyddiadau, dangosiadau ffilm a gweithdai yn hyrwyddo a diogelu treftadaeth leol. Gyda dros 1,000 o ffotograffau a chofiannau’n cael eu rhoi gan y gymuned, mae archif y clwb wedi tyfu i fod yn gasgliad cyfoethog sy'n cyfleu hanfod hanes yr ardal. Bydd uchafbwyntiau'r casgliad, gan gynnwys gwaith celf gan bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect, i'w gweld yn yr arddangosfa, sydd ar agor tan 26 Tachwedd 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg: "Rwyf wrth fy modd fod y Prosiect Treftadaeth wedi’i gwblhau’n llwyddiannus. Credaf y bydd yn ffynhonnell werthfawr o atgofion i'n trigolion ac yn adnodd hanfodol ar gyfer diogelu ein hanes lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn y gwaith er mwyn gwireddu'r prosiect hwn."
Mae 57 o Wirfoddolwyr Ieuenctid a Chymunedol wedi neilltuo mwy na 378 awr i sicrghau fod y prosiect hwn yn llwyddiant. Cafodd cyflawniadau'r ieuenctid eu cydnabod yng Ngwobrau'r Academi Llwyddiant ym mis Mehefin 2024, gyda'r prosiect ennill dyfarniad 'Prosiect Arloesol y Flwyddyn'.
Ychwanegodd Chris Hole, Pennaeth Ataliaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Mae gwaith y bobl ifanc a chymuned Treharris yn enghraifft wych o sut y gall dysgu, yn yr enghraifft hon am ein hanes a'n diwylliant fod yn addysgiadol ac yn ddeniadol a dyma'r hyn sy'n sicrhau gwaith ieuenctid unigryw. Dylai pawb a gyfranogodd; y bobl ifanc, y gymuned a’r staff fod yn falch iawn".