Ar-lein, Mae'n arbed amser

Statws hanesyddol yn achosi oedi i atgyweirio Pont-y-Cafnau

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Awst 2022
Pont-y-Cafnau Bridge

Mae’r Cyngor yn gweithio mor gyflym â phosib i atgyweirio Pont-y-Cafnau, ond mae cymhlethdodau a achosir gan statws hanesyddol bwysig y bont - a materion ecolegol- wedi oedi’r gwaith.

Mae’r strwythur 230-blwydd oed, y bont reilffordd haearn bwrw hynaf yn y byd yn Heneb Hynafol Gofrestredig ac yn adeilad Gradd II* Rhestredig. Fel y cyfryw, rhaid i unrhyw waith dderbyn cymeradwyaeth gwasanaeth yr amgylchedd a hanes Llywodraeth Cymru CADW..

Er nad yw mwyach yn bont reilffordd, mae Pont-y-Cafnau yn cael ei defnyddio fel pont droed, ac wedi bod ar gau ers 2020 oherwydd niwed strwythurol yn ystod stormydd y gaeaf.

Cynghorodd CADW'r Cyngor i apwyntio arbenigwr Peiriannydd Strwythurol Treftadaeth I baratoi adroddiad asesiad strwythurol, gyda’r awdurdod hefyd yn gorfod asesu gofynion ecolegol.

Roedd rhaid clirio llystyfiant sylweddol gan ddefnyddio rhaffau er mwyn archwilio'r strwythur yn fanwl. Dangosodd hyn bod angen rhaglen sylweddol o atgyweirio'r garreg yn angenrheidiol, a fydd yn golygu datgymalu ac ailadeiladu rhan o’r bont.

Bu’n rhaid cynnal sawl arolwg ecolegol yn dilyn dod o hyd i olion dyfrgwn, a chlwyd ystlumod posib yn y wal, ac apwyntiwyd ecolegydd gyda thrwydded ystlumod i oruchwylio’r gwaith..

Bydd angen Caniatâd Heneb Restredig et oar weddill y gwaith, yn ogystal â Chaniatâd Amddiffyn llifogydd gan Adnoddau Naturiol Cymru.

“Rydyn ni’n deall bod pobl yn rhwystredig, ond mae hon yn rhaglen gymhleth o waith ac yn gofyn am ôl meddwl sylweddol er mwyn cael mynediad at y gwaith,” meddai Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet am Adfywio'r Cyng. Geraint Thomas.

“Yn anffodus allwn ni ddim symud ynghynt, a gobeithio y gallwn ni gwblhau’r gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda’r bont yn ailagor o gwmpas Ebrill/ Mai 2023.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni