Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hanes yn dod yn fyw yn Nhaf Bargoed diolch i’r ‘Hyb Treftadaeth’

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Awst 2022
TBV Monuments 3

Y flwyddyn nesaf bydd yr Hyb Treftadaeth yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treharris yn dathlu 100 mlynedd ers i’r clwb agor 1923 ac i ddathlu’r ganrif, byddwn yn cyflwyno rhaglen trwy’r flwyddyn o weithgareddau a gweithdai gyda’r bwriad o ddod o hyd i dreftadaeth leol goll a chynllunio a chreu gofod parhaol i arbed hanes gwerthfawr yr ardal.

Mae’r Hyb Treftadaeth wedi ymroi i gofnodi bywyd pob dydd y cymunedau gweithiol yng Nghwm Taf Bargoed o’r cyfnod cyn i ddiwydiant gyrraedd hyd y presennol. Hyd yn hyn mae pobl ifanc 7-18 oed wedi cynllunio cofebau,coed 100 troedfedd a chreu band martsio, wedi ei ariannu gan fenter Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

Bydd pob un gosodiad yn y gofod treftadaeth yn cael ei gynllunio a’i adeiladu gan y gymuned leol a phobl ifanc.. Bwriad y project yw dod a chymunedau at ei gilydd trwy ymdrech ar y cyd I ddod o hyd i ac adfer hanes lleol a helpu i adfywio'r ardal trwy greu cyfleusterau lleol y gall pawb eu mwynhau.

Dwedodd Eiriolwr Plant y Cyngor, y Cyng. Lisa Mytton,“ Rydw I’n hynod o falch o’r gwaith sy’n digwydd yn y clwb. Mae’r tîm yn gweithio mor galed i gefnogi’r bobl ifanc gyda gweithgareddau mor dda a chyfleoedd. Mae’r project treftadaeth mor gyffrous, a galla i ddim aros i weld gwaith gorffenedig y bobl ifanc.”

Dwedodd yr eiriolwr Treftadaeth y Cyng. David Isaacs,“Rwy’n llwyr gefnogi creu amgueddfa hanes lleol yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treharris i ddathlu eu pen-blwydd yn 100 oed. Mae trigolion Merthyr Tudful yn haeddiannol falch o’r rôl a chwaraeodd y dref yn ystod y chwyldro diwydiannol. Bydd creu’r amgueddfa o fewn y clwb yn dod â hanes yr ardal gyfagos yn fyw i genedlaethau’r dyfodol a fydd, gobeithio, yn parhau i ddefnyddio’r clwb am y can mlynedd nesaf.”

Mae’r project hyb treftadaeth yn chwilio am ymgynghoriad cymunedol fel rhan o broses gais cyllid. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi’r project a dweud eich dweud, cwblhewch yr arolwg byr ar: https://forms.gle/ibueEW5jY8DEHcD9A

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni