Ar-lein, Mae'n arbed amser
Howard Barrett 1961 - 2021
- Categorïau : Press Release , Council
- 03 Tach 2021

Cynhaliwyd munud o dawelwch heno mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn fel arwydd o barch tuag at y Cynghorydd Howard Barrett, a fu farw yn anffodus ddydd Sul, 31 Hydref 2021.
Talodd y Cynghorydd Lisa Mytton, Arweinydd CBS Merthyr Tudful, deyrnged i’w chyd-Gynghorydd ac Aelod Ward: “Cafodd Howard ei ethol gyntaf yn Gynghorydd yn Ward Faenor yn 2008 a bu’n Faer Merthyr Tudful rhwng 2019 a 2021, gan gynrychioli’r Fwrdeistref Sirol ag urddas a balchder.
“Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, bu’n gweithio’n ddiflino i’r Ward. Cyn hynny, roedd yn Aelod Cabinet ac yn fwy diweddar yn Gadeirydd Cynllunio.
“Chwaraeodd Howard ran weithredol y tu allan i’r Cyngor gan gynrychioli Merthyr Tudful ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a bu hefyd yn llywodraethwr am gyfnod maith yn Ysgol y Graig.
“Roedd Howard nid yn unig yn gydweithiwr – roedd e hefyd yn ffrind annwyl i mi. Byddaf yn ei golli e’n aruthrol.
Dywedodd Ellis Cooper, Prif Weithredwr CBS Merthyr Tudful: “Er gwaethaf ei salwch diweddar, roedd Howard yn ymroddedig iawn i’r Cyngor hwn ac i’r bobl yr oedd yn eu cynrychioli, ac ni fethodd erioed â chyflawni’i holl ymrwymiadau i’r Cyngor.
“Bydd colled fawr ar ei ôl, ac estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i’w fab Wayne a’i deulu ar yr adeg anoddaf hon.”