Ar-lein, Mae'n arbed amser
Llwyddiant ysgubol i CBSM yng Ngwobrau iESE
- Categorïau : Press Release
- 13 Maw 2025

Yn ddiweddar, enillodd Tîm Cyflogadwyedd Tai ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Wobr Efydd Ffocws Cymunedol a Chwsmeriaid yn Seremoni Wobrwyo iESE.
Mae'r Tîm yn cynorthwyo unigolion sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth drwy raglen QuickStart y Cyngor a'r rhai sy'n chwilio am brentisiaethau drwy'r rhaglen Rhannu Prentisiaeth.
Mae'r rhaglen Llwybr at Waith, sy'n cael ei rheoli ar draws y Tîm Cyflogadwyedd a Thîm Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal, y Gwasanaethau Plant yn cefnogi ein Plant sy'n Derbyn Gofal yn benodol ag amrywiaeth o gymorth cyn-gyflogaeth ac hyfforddiant.
Sicrhaodd y tîm eu gwobr am fod y fenter sy'n gwneud y mwyaf i adfywio'r gymuned leol a darparu gwasanaeth rhagorol i'w cwsmeriaid. Mae’r Tîm Ysbrydoli a Llwybr at Waith wedi cael effaith barhaol ar y gymuned trwy fentrau sy'n creu cyfleoedd ac sydd yn sicrhau gwir newid cadarnhaol. Mae'r lleoliad cyflogaeth 6 mis a ariennir gan Ysbrydoli QuickStart a'r Llwybr at Waith yn rhoi sgiliau a hyder hanfodol i unigolion, gyda chymorth mentora sydd wedi'i deilwra.
Mae tîm ymroddedig yn canolbwyntio ar gynorthwyo'r garfan 'Plant sy'n Derbyn Gofal', gan sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn derbyn cefnogaeth wedi'i thargedu. Mae Rhaglen Prentisiaeth Ysbrydoli yn cryfhau'r maes ymhellach trwy gynnig cyfleoedd mentora cadarn ac adeiladu gyrfa. Mae'r ymdrechion hyn wedi trawsnewid bywydau, gwell canlyniadau gwasanaeth a llai o ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus gan arddangos eu hymrwymiad i gefnogaeth gymunedol eithriadol a gwasanaeth cwsmeriaid.
Dywedodd Jared Green, Cydlynydd Ysbrydoli a Llwybr at Waith: "Rydym mor falch o waith caled ac ymroddiad y timau o fewn y rhaglenni Ysbrydoli a Llwybr at Waith. Ein gweledigaeth erioed fu dod â'r rhaglenni hyn at ei gilydd fel bod y cyfranogwyr yn cael y gefnogaeth fwyaf posibl sydd ar gael.
"Mae'n anhygoel cael ein cydnabod ar raddfa genedlaethol ac mae bod yr unig Awdurdod Lleol yng Nghymru i fynd drwodd yn adrodd cyfrolau. Mae derbyn y wobr efydd yn anhygoel ac yn dyst i'r tîm gwych sy'n cyflawni'n gyson ac yn llwyddiannus yn ddyddiol. Rydym yn edrych ymlaen at wneud cais y flwyddyn nesaf felly gwyliwch y gofod hwn."
Dywedodd y Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr fawreddog hon. Mae’n tîm ymroddedig yn gweithio'n ddiflino i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n trigolion ac mae'n anrhydedd gweld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod. Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i'w hymrwymiad a'u brwdfrydedd dros wasanaethu ein cymuned. Diolch i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant hwn."